i gariad drwy i gyffelybu i fab maeth
1 Mau gariad mewn magwriaeth
2 mab rhyfygus moethus maeth
3 mireinfab mawr ei anfoes
4 meinferch mewn traserch am troes
5 mab ym heddiw nid gwiw gwad
6 maeth rhag hiraeth yw cariad
7 mawr o ddrwg cilwc cyli
8 a wnaeth i mab maeth i mi
9 mynnu i ddwyn er mwyn merch
10 mynnu gorllwyn ymannerch
11 mynnu rhodiaw mewn rhedyn
12 mynnu i ddenu o ddyn
13 mae'n rhyfawr ym ynrhafael
14 mynnu ei gelu a'i gael
15 meinwen a wyr y mynud
16 mynnu gwynfydu yn fud
17 megais mawr geriais gariad
18 mal mab maeth brydyddiaeth brad
19 meithrin chwileryn gwyn gwâr
20 ym mynwes o serch meinwar
21 [137v] oer ym fagu llyssu lles
22 mebyn meinwyn im mynwes
23 mab rhyfedd mi ai profaf
24 i foes yw hwn fis o haf
25 ni fyn cariad i wadu
26 nai ddangos i lios lu
27 nid a o ardal calon
28 ni thrig ond ymrig y mron
29 ni ddichon ef heddychawd
30 ni wastetty gwedy gwawd
31 nid eisteddai febai fab
32 ni orwedd f'aniweirfab
33 ni sai ni orsai eurserch
34 natur gwyl am orchwyl merch
35 tyfais i glod hyd Teifi
36 tadmaeth serch i ferch wyfi
37 mab anodd mi a boenais
38 i feithring fydd fyth rhwng f'ais
39 aflonydd yw fo 'leni
40 y mab a fegais y mi
41 megais dyn wyf cyn nwyf cain
42 anwylfab i wen aelfain
43 bychan em eirian y mi
44 budd er magu mab y iddi
45 oerfel serchowgrwydd eurfaeth
46 ir ferch ai rhoddes ar faeth
47 oni thal llawn ofal llu
48 mau fygwth am i fagu
Dafydd ap gwilym ai cant