{ko: fal i magase fo gariad}
1 Max{vn} gariad ym magwriaeth
2 mab rhyfygus mwythus maeth
3 Mireinvab mawr i anvoes
4 meinverch mewn traserch am troes
5 mab ym heddiw nid gwiw gwad
6 maeth rhac hiraeth yw cariad
7 mawr o ddrwg golwg culi
8 a wnaeth y mab maeth i mi
10 mynv gorllwyn ymanerch
9 mynv i ddwyn er mwyn merch
11 mynv rhodio mewn rhedyn
12 mynv i ddenv oddyn
13 mae'n rhyvawr ym ynrhavael
14 mynv i gelv ai gael
15 [423] Meinwar a wyr vy mvnvd
16 mynv gwynfydu yn fud
17 megais mawr guriais gariad
18 mal mab maeth brydyddiaeth brad
19 meithrin chweleryn gwyn gwar
20 ym mynwes yw serch meinwar
21 oedd ym vagu llysu lles
22 mebyn meinwyn im mynwes
23 map rhyfedd mi ai profaf
24 i voes yw hwn vis o haf
25 ni vynn cariad i wadu
26 nai ddangaws i liaws lu
29 ni ddichon ef hyddychwawd
30 ni wastety gwedy gwawd
27 nid a o ardal calon
28 ni thrig ond ym mrig ym mron
31 nid eisteddai pe bai bab
32 ni orwedd y niweirvab
33 ni saif ni orsaif eurserch
34 natur gwyl am orchwyl merch
35 tyfais i chlod yd Deifi
36 tadmaeth serch ir verch wyfi
37 mab anodd mi a boenais
38 i veithrin yw aeth rhwng vais
39 aflonydd yw' fo leni
40 y mab a vegais imi
41 megais dyn wyf cynwyf cain
42 anwylvab i wen aelfain
43 bychan em eirian i mi
44 budd er magu mab iddi
45 oerfel serchowgrwydd eurfaeth
46 ir ferch ai rhoddes ar faeth
47 oni thal llawn ofal llu
48 mav vygwth am i vagu
Dauid ap Gwilim