â â â Serch Dirgel
1â â â Myfi y sydd, deunydd dig,
2â â â Leidr serch dirgeledig.
3â â â Gwylltion adar, glaear glod,
4â â â Anian uthr, a wna nythod.
5â â â A sef y gwnân' dan y dail
6â â â Ym mhlethiad gwead gwiail
7â â â Yn lle diarffordd rhag llu
8â â â O fygr synnwyr i fagu.
9â â â Yn unsud, yn un ansawdd
10â â â Â hynny, cywely cawdd,
11â â â Cariad a wnaeth, caeth yw'r cof,
12â â â Annoethineb, nyth ynof,
13â â â A'm dwy ais, myn Duw Iesu,
14â â â Fyth a'i cudd. Gwaith heb fudd fu.
15â â â Gwial ydynt, hynt hyfriw,
16â â â Dau ystlys gwas destlus gwiw.
17â â â Canu a wnaf cyd cwynwyf
18â â â A'm calon fyth yw nyth nwyf.
19â â â Ni chair serch y loywferch lân,
20â â â Ni thwyllir o'r nyth allan.
21â â â Ni fedr Eiddig anfadwr
22â â â Ar y nyth hwn, arwnoeth wr,
23â â â A mi ni'm dawr, gawr geirsyth,
24â â â Cyn nis metro efô fyth.
25â â â Dilys gennyf, fardd dilyth,
26â â â Yn wir, nas gwybyddir byth.
27â â â Onis pair, drud lestair drwg,
28â â â Twrn alaw, tirion olwg,
29â â â Meddwl calon a bron brudd
30â â â Drwy amgylch draw a ymgudd.
31â â â Ple bynnag, ddinag ddeunwyf,
32â â â Tyb oedd, yn y ty y bwyf,
33â â â Y drem goris ael dramain
34â â â A'm cenfydd, cof hafddydd cain.
35â â â Llw beiddiad, o'r lle byddwyf
36â â â Minnau a'i gwyl, engyl wyf,
37â â â Ei chwerthiniad, gariad gael,
38â â â A'i mynud ar ei meinael.
39â â â Newidio drem ni wadaf
40â â â Â'm chwaer. Dim amgen ni chaf.
41â â â Ef aeth ei drem, gem Gymru,
42â â â A'i chariad, ehediad hy,
43â â â Dyn fain wengain ewyngorff,
44â â â Drwy 'mron a'm calon a'm corff
45â â â Mal ydd âi, gwiw ddifai gofl,
46â â â Gronsaeth trwy ysgub grinsofl.
47â â â Ni ad Beuno, tro tremyn,
48â â â Abad hael, fyth wybod hyn.
49â â â Gymro dig, heb Gymru dir
50â â â Y byddaf o gwybyddir.