Serch Dirgel
Yr wyf fi, pwnc [sy'n peri] dicter,
yn lladrata serch ac yn ei gelu.
Bydd yr adar gwylltion, [haeddant] foliant prydferth,
4 rhyfeddol [yw] eu greddf, yn gwneud nythod.
A hynny a wnânt o dan y dail
ym mrodwaith a gwead y llwyni
mewn llecyn unig allan o olwg y dyrfa
8 trwy ddeall gwych er mwyn magu [cywion].
Yn yr un modd â hynny, a chyffelyb ei ansawdd,
gwnaeth cariad, cymar [sy'n peri] trallod,
y mae fy meddwl mewn caethiwed,
12 (dyna ynfydrwydd), nyth ynof,
ac yn barhaus, yn enw Duw ac Iesu,
cuddia fy nwy ais ef. Llafur ofer fu [hwn].
Dwy ochr y llanc trwsiadus a theg-canghennau ydynt,
16 bregus [yw fy] mywyd.
Er y dichon i mi gwyno, daliaf i ganu
ac y mae fy nghalon yn fythol yn nyth i angerdd.
Nid oes modd denu serch y lodes ddisglair a phur i adael y
nyth
20 [hyd yn oed] trwy dwyll.
Ni wyr y dihiryn Eiddig,
gwr moel a garw, ddim oll am y nyth hwn,
ac nid yw ef yn destun gofid imi, [mae ei] floedd [ar ffurf]
geiriau swrth,
24 er na fydd yn dragywydd yn gwybod amdano.
Sicr ydwyf, bardd grymus [ydwyf],
yn wir, na fydd yr un enaid byw yn gwybod amdano byth.
Oni fydd yr un dirion ei golwg, troad [un megis] lili, yn gwneud
hynny,
28 rhwystr anffodus a drud [ei ganlyniadau],
bydd bwriad y galon a'r fynwes bruddglwyfus
yn ymguddio draw yn ei gwmpasfyd.
Pa le bynnag y bwyf yn y neuadd,
32 gellid tybio, angerdd mawr a dilys,
bydd y llygaid o dan yr aeliau main iawn
yn fy nghanfod, atgof prydferth [sydd am] ddyddiau'r haf.
Adduned gwr mentrus [yw hon], o'r fan lle byddaf,
36 byddaf innau yn gwylio, [un megis] angel wyf,
ei chwerthin, [cyfrwng] ennill serch,
a'r amneidiau ar ei haeliau meinion.
Nid wyf yn gwadu nad wyf yn cyfnewid arwyddion
40 â'm cariadferch. Ni chaf ganddi fwy na hynny.
Aeth ei gwedd, trysor Cymru,
a'i chariad, gwibiad nerthol,
merch luniaidd a gosgeiddig, [un] bryd golau a'i chnawd [yn
unlliw â'r] ewyn,
44 drwy fy mron a'm calon a'm corff
[yn union] fel yr âi saeth gron trwy ysgub o wellt
crin,
mynwes deg a phur.
Ni fydd Beuno Abad hael yn caniatáu datgelu hyn yn
dragywydd,
48 [sef hynt] y llygaid a'u symudiadau.
Os caiff pawb wybod am hyn,
byddaf fi, y Cymro llawn dicter, yn alltud o dir Cymru.