1 Myfi y sydd devnydd dig
2 Leidr serch dirgeledig
3 Gwylltion adar glayar glod
4 Anian vthr a wna nythod
5 A sef y gwnan dan y dail
6 Ym mhlethiad gwead gwiail
7 Yn lle diarffordd rhac llv
8 O fygr synwyr i fagv
9 Yn vnsvd yn vn ansawdd
10 A hynny cywely cawdd
11 kariad a wnaeth kaeth yw'r cof
12 annoethineb nyth ynof
13 [122r] Am dwy ais ym duw Iesu
14 fyth ai cvdd gwaith heb fvdd fv
15 Gwial ydynt hynt hyfriw
16 dav ystlys gwas destlvs gwiw
17 canv a wnaf cyd cwynwyf
18 Am calon fyth yw nyth nwyf
19 Ni chair serch y loywferch lan
20 Ni thwyllir oi nyth allan
21 Ni feidr eiddig anfadwr
22 Ar y nyth hwn arwnoeth wr
23 A mi nim dawr gawr garsyth
24 kan nis metro efo fyth
25 dilys gennif fardd dilyth
26 Yn wir na wybyddir byth
27 Onis pair drwy anair drwg
28 Twrn aelaw tirion olwg
29 Meddwl calon a bron brudd
30 Drwy amgylch draw a ymgudd
31 Ple bynnag ddinag ddevnwyf
32 Tybo oedd yn y ty y bwyf
33 [122v] A drem goris ael dramain
34 Im cenfydd kof hafddydd cain
35 llw beiddiad or lle byddwyf
36 minneu ai gwyl engyl wyf
37 I chwerthiniad gariad gael
38 Ai mvnyd ar i meinael
39 Newidio drem ni wadaf
40 Am chwaer dim angen ni chaf
41 Ef aeth i drem gem gymry
42 Ai chariad ehediad hy
43 dyn fain wengain ewyngorph
44 drwy 'mron am calon am corph
45 Mal ydd ai gwiw ddifai gofl
46 Gronsaeth drwy ysgvb grinsofl
47 Ni ad bevno tro tremyn
48 Abad hael fyth wybod hyn
49 Gymro dig heb Gymrv dir
50 y byddaf o gwybyddir
Da' ap Glm'