{Ko: fel ir oedd o yn nychv o gariad}
1 Myvi y sydd defnydd dig
2 Leidr serch dirgeledig
3 [346] gwylltion adar glayar glod
4 anian vthr a wna nythod
5 a sef i gwnan dan y dail
6 ymhlethiad gwead gwiail
7 yn lle diarphordd rhac llu
8 o vygr synnwyr i vagu
9 yn vnsud yn vn ansawdd
10 a hyny cywely cawdd
11 cariad a wnaeth caeth yw'r cof
12 anoethineb nyth ynof
13 am dwy ais myn duw Iesu
14 vyth ai cudd gwaith heb vudd vu
15 gwial ydynt hynt hyvriw
16 dau ystlys gwas destlus gwiw
17 canv a wnaf cyd cwynwyf
18 am calon vyth yw nyth nwyf
19 ni chair serch y loywverch lan
20 ni thwyllir or nyth allan
21 ni vedr eiddig anvadwr
22 ar y nyth hwn arwnoeth wr
23 a mi ni'm dawr gawr garsyth
24 cann nis metro yvo vyth
25 dilys gennyf vardd dilyth
26 yn wir na wybyddir byth
27 onis pair drwy anair drwg
28 twrn aelaw tirion olwg
29 meddwl calon a bron brudd
30 drwy amgylch draw a ymgudd
31 plebynag ddinag ddeunwyf
32 tyb oedd yn y tuy y bwyf
33 adrem goris ael dramain
34 i'm cenvydd cof hafddydd cain
35 llw beiddiad or lle byddwyf
36 minau ai gwyl engyl wyf
37 i chwerthiniad gariad gael
38 ai mvnvd ar i meinael
39 newidio drem ni wadaf
40 am chwaer dim amgen ni chaf
41 ef aeth i drem gem Gymry
42 ai chariad ehediad hy
43 [347] dyn vain wyngain ewyngorph
44 drwy 'mron am calon am corph
45 val yddai gwiw ddivai gofl
46 gronsaeth drwy ysgub grinsofl
47 ni ad Beuno tro tremyn
48 Abad hael vyth wybod hynn
49 Gymro dig heb Gymru dir
50 y byddaf o gwybyddir
Dauid ap Gwilim