1 My fi y sydd denfydd dig
2 leidyr serch dirgeledig
3 gwylltion adar glaiar glod
4 anian vthvr a wna ei nythod
5 a sef y gwnan dan y dail
6 ymhlethiad gwead gwiail
7 mewn lle diarffordd rhag llv
8 o fygyr synwyr i fagv
9 ar vn syd ar vn ansawdd
10 a hynny kywely kawdd
11 kariad a wnaeth kaeth yw r kof
12 anoethineb nyth ynof
13 am dwy ais myn dvw jessv
14 byth ai kvdd gwaith heb vvdd vv
15 gwiail ydynt hynt hyfriw
16 dwy ystlys gwas destlys gwiw
17 kanv a wnaf hyd y kwynwyf
18 am kalon vyth yw nyth nwyf
19 ni chair serch y lwywferch lan
20 ni thwyllir oi nyth allan
21 ni fedyr eiddig anfadwr
22 ar y nyth hwn oer noeth wr
23 myn dvw nim dawr gawr geirsyth
24 er nas medro efo vyth
25 dilis gennyf a dilyth
26 yn wir nas gwybyddir byth
27 onys payr drvd lesmair drwg
28 twrn avlawd tirion olwg
29 meddwl kalon a bronn brvdd
30 dwy amgylch draw a ymgvdd
31 ple bynnag ddinag ddavnwy
32 tyb oedd yn y ty y bwy
33 ar drem goris ael dramain
34 im kenfydd kof hafddydd kain
35 [158]lly bvddied hyd lle bvddwv
36 minne y gwel ar gil wyv
37 y chwerthiniad gariad gael
38 ai mvnyd ar ei meinael
39 newidio trem ni wadaf
40 am chwaer dim amgen ni chaf
41 ef aeth ei threm gem Gymrv
42 a chariad y hediad hy
43 fvn fain wen gain ewyn gorff
44 trwy mron am kalon am korff
45 fal ydd ai gwiw ddifnai gofol
46 gron saeth drwy ysgyb grin sofol
47 ni ad bv yno tro tremyn
48 abad hael byth wybod hynn
49 Gymro dig heb Gymrv dir
50 y byddaf o gwybyddir
dd ap Gwilim