kowydd merch
1 myfydd devnydd dig
2 leidyr serch dirgeledig
3 gwlldion adar klayar klod
4 annian vthvr a wna i nythod
5 Sef i gwnan dan y dail
6 yn blethiad gwead gwiail
9 yn vnssut yn vn anssawdd
10 a hynv kywely kawdd
11 kariad a wnaeth kaeth fvr kof
12 anoethineb i nyth ynof
13 am dwy ais myn duw iessv
14 fyth ai kvdd gwaith heb fvdd fv
21 ni fedyr eiddig anfadwr
22 ar y nyth hwn arw noeth wr
23 a mi nim dawr gawr garssyth
26 yn wir nas gwybyddir byth
27 onim pair drwy lefair drwg
28 trwyn alaw tvrion olwg
29 meddwl kalon a bron brvdd
30 drwy amgylch draw a ymgvdd
31 pa le bynag dinag dynwy
32 tybi oedd yn y ty y bwy
33 o drem gorlliw havl dremain
34 im kynydd kof hafddydd kain
35 llw beiddiaf or lle i byddwyf
36 or nef a wyl angel wyf
39 newidio trem ni wadaf
40 am chwaer dim amgen ni chaf
41 y fo aeth i threm gem gymry
42 ai chariad hediad hy
43 Dyn fain wengain vniongorff
44 drwy mron am kalon am korff
45 fal i rai gwiw ddifai gofl
46 gron saeth drwy ysgyb grinsofl
47 ni ad bevno tro tremyn
48 abad hael byth wybod hyn
49 kymro dig heb kymrv dir
50 i byddaf os gwybyddir
dd ap glim ai kant