â â â Y Breuddwyd
1â â â Fal yr oeddwn, gwn heb gêl,
2â â â Yn dargwsg mewn lle dirgel,
3â â â Gwelais ar glais dichlais dydd
4â â â Breuddwyd ar ael boreuddydd.
5â â â Tybiwn fy mod yn rhodiaw
6â â â A llu bytheiaid i'm llaw,
7â â â Ac yn cerdded y gwledydd
8â â â A'r tir adwaenwn hyd dydd,
9â â â Ac i fforest yn gestwng,
10â â â Teg blas, nid ty taeog blwng.
11â â â Gollyngwn i yn ddioed,
12â â â Debygwn, y cwn i'r coed.
13â â â Cynydd da, iawn ddawn ddifri,
14â â â Ar a dybiwn oeddwn i.
15â â â Clywwn oriau, lleisiau llid,
16â â â Canu'n aml, cwn yn ymlid.
17â â â Ewig wen goruwch llennyrch
18â â â A welwn, carwn y cyrch,
19â â â A rhawd fytheiaid ar hynt
20â â â Yn ei hôl, iawn eu helynt.
21â â â Cyrchu'r allt yn ddiwalltrum
22â â â A thros ddwy esgair a thrum,
23â â â A thrachefn dros y cefnydd
24â â â Ar hynt un helynt â hydd,
25â â â A dyfod wedy'i dofi,
26â â â A minnau'n ddig, i'm nawdd i.
27â â â Dwyffroen noeth-deffroi wneuthum.
28â â â Wr glwth, yn y bwth y bûm.
29â â â Cyrchais gongl ar ddehonglydd
30â â â Drannoeth fal y doeth y dydd.
31â â â Cefais hynafgwraig gyfiawn
32â â â Pan oedd ddydd yn ddedwydd iawn.
33â â â Addef a wneuthum iddi,
34â â â Goel nos, fal y gwelwn i.
35â â â 'Rho Duw, wraig gall, pe gallud
36â â â Rhyw derfyn ar hyn o hud,
37â â â Ni chyfflybwn, gwn ganclwyf,
38â â â Neb â thi. Anobaith wyf '.
39â â â 'Da beth, y diobeithiwr,
40â â â Yw dy freuddwyd, od wyd wr:
41â â â Y cwn heb gêl a welud
42â â â I'th law, pe gwypud iaith lud,
43â â â Dy hwylwyr, diau helynt,
44â â â Dy lateion eon ynt,
45â â â a'r ewig wen unbennes
46â â â A garud ti, hoen geirw tes.
47â â â Diau yw hyn y daw hi
48â â â I'th nawdd, a Duw i'th noddi'.