Testun Golygedig: 79 - Y Breuddwyd

Y Breuddwyd

Fal yr oeddwn, gwn heb gêl,
Yn dargwsg mewn lle dirgel,
Gwelais ar glais dichlais dydd
4 Breuddwyd ar ael boreuddydd.
Tybiwn fy mod yn rhodiaw
A llu bytheiaid i'm llaw,
Ac yn cerdded y gwledydd
8 A'r tir adwaenwn hyd dydd,
Ac i fforest yn gestwng,
Teg blas, nid tŷ taeog blwng.
Gollyngwn i yn ddioed,
12 Debygwn, y cŵn i'r coed.
Cynydd da, iawn ddawn ddifri,
Ar a dybiwn oeddwn i.
Clywwn oriau, lleisiau llid,
16 Canu'n aml, cŵn yn ymlid.
Ewig wen goruwch llennyrch
A welwn, carwn y cyrch,
A rhawd fytheiaid ar hynt
20 Yn ei hôl, iawn eu helynt.
Cyrchu'r allt yn ddiwalltrum
A thros ddwy esgair a thrum,
A thrachefn dros y cefnydd
24 Ar hynt un helynt â hydd,
A dyfod wedy'i dofi,
A minnau'n ddig, i'm nawdd i.
Dwyffroen noeth—deffroi wneuthum.
28 Ŵr glwth, yn y bwth y bûm.

   Cyrchais gongl ar ddehonglydd
Drannoeth fal y doeth y dydd.
Cefais hynafgwraig gyfiawn
32 Pan oedd ddydd yn ddedwydd iawn.
Addef a wneuthum iddi,
Goel nos, fal y gwelwn i.

   'Rho Duw, wraig gall, pe gallud
36 Rhyw derfyn ar hyn o hud,
Ni chyfflybwn, gwn ganclwyf,
Neb â thi. Anobaith wyf '.

   'Da beth, y diobeithiwr,
40 Yw dy freuddwyd, od wyd ŵr:
Y cŵn heb gêl a welud
I'th law, pe gwypud iaith lud,
Dy hwylwyr, diau helynt,
44 Dy lateion eon ŷnt,
a'r ewig wen unbennes
A garud ti, hoen geirw tes.
Diau yw hyn y daw hi
48 I'th nawdd, a Duw i'th noddi'.