| Y Breuddwyd | |
| Fal yr oeddwn, gwn heb gêl, | |
| Yn dargwsg mewn lle dirgel, | |
| Gwelais ar glais dichlais dydd | |
| 4 | Breuddwyd ar ael boreuddydd. |
| Tybiwn fy mod yn rhodiaw | |
| A llu bytheiaid i'm llaw, | |
| Ac yn cerdded y gwledydd | |
| 8 | A'r tir adwaenwn hyd dydd, |
| Ac i fforest yn gestwng, | |
| Teg blas, nid tŷ taeog blwng. | |
| Gollyngwn i yn ddioed, | |
| 12 | Debygwn, y cŵn i'r coed. |
| Cynydd da, iawn ddawn ddifri, | |
| Ar a dybiwn oeddwn i. | |
| Clywwn oriau, lleisiau llid, | |
| 16 | Canu'n aml, cŵn yn ymlid. |
| Ewig wen goruwch llennyrch | |
| A welwn, carwn y cyrch, | |
| A rhawd fytheiaid ar hynt | |
| 20 | Yn ei hôl, iawn eu helynt. |
| Cyrchu'r allt yn ddiwalltrum | |
| A thros ddwy esgair a thrum, | |
| A thrachefn dros y cefnydd | |
| 24 | Ar hynt un helynt â hydd, |
| A dyfod wedy'i dofi, | |
| A minnau'n ddig, i'm nawdd i. | |
| Dwyffroen noeth—deffroi wneuthum. | |
| 28 | Ŵr glwth, yn y bwth y bûm. |
| Cyrchais gongl ar ddehonglydd | |
| Drannoeth fal y doeth y dydd. | |
| Cefais hynafgwraig gyfiawn | |
| 32 | Pan oedd ddydd yn ddedwydd iawn. |
| Addef a wneuthum iddi, | |
| Goel nos, fal y gwelwn i. | |
| 'Rho Duw, wraig gall, pe gallud | |
| 36 | Rhyw derfyn ar hyn o hud, |
| Ni chyfflybwn, gwn ganclwyf, | |
| Neb â thi. Anobaith wyf '. | |
| 'Da beth, y diobeithiwr, | |
| 40 | Yw dy freuddwyd, od wyd ŵr: |
| Y cŵn heb gêl a welud | |
| I'th law, pe gwypud iaith lud, | |
| Dy hwylwyr, diau helynt, | |
| 44 | Dy lateion eon ŷnt, |
| a'r ewig wen unbennes | |
| A garud ti, hoen geirw tes. | |
| Diau yw hyn y daw hi | |
| 48 | I'th nawdd, a Duw i'th noddi'. |