Y Breuddwyd
Fel yr oeddwn, gwn heb gelu,
yn hepian mewn lle cuddiedig,
gwelais freuddwyd gyda thoriad a gwawrio'r dydd
4 [ac] ar orwel y bore.
Tybiwn fy mod yn cerdded
a haid o gwn hela [wrth gynllyfan] yn fy llaw,
ac yn teithio gydol y dydd ar hyd y rhanbarthau
8 a'r tiroedd yr oeddwn yn gyfarwydd â hwy,
ac yn disgyn i goedwig,
[lle megis] plasty hardd, nid [megis] bwthyn taeog surbwch.
Gollwngwn y cwn i'r coed
12 heb oedi, felly y meddyliwn.
Yr oeddwn yn heliwr da fel y credwn,
taer a dilys [ei] reddf.
Gallwn glywed bloeddiadau'r cwn wrth hela,
16 lleisiau [llawn] ffyrnigrwydd, canu mynych.
Gwelwn ewig wen uwch y meysydd,
hoffi'r helfa yn fawr a wnawn,
a haid o gwn hela ar ras
20 ar ei thrywydd, cywir oedd eu cwrs.
Cyrchu'r bryn [a wnaeth yr ewig], yn berffaith ei ffurf,
a thros ddwy esgair a chrib,
ac ymlaen dros y llethrau
24 ar wib a'i thaith [fel taith] hydd,
a dod ar ôl iddi gael ei dofi,
a minnau yn llawn angerdd, i geisio fy nawdd.
[Ei] dwyffroen yn noeth; deffro a wneuthum.
28 Gwr blysig [oeddwn]; yn y bwthyn y bûm [yr holl
amser].
Euthum drannoeth cyn gynted ag y gwawriodd
i'r cyrion i geisio esboniwr.
Pan ddaeth y dydd cefais hyd i wraig ddoeth,
32 a ffodus [oedd hynny].
Cyfaddef a wneuthum wrthi
yr hyn a welswn [sef] arwyddion y nos.
'Myn Duw, y wraig ddoeth, pe bai modd i ti
36 gael gwared ar yr hud hwn,
fe'th ganmolwn yn fwy na neb.
Clwyfau lluosog sydd i'm rhan. Un diobaith wyf '.
'Os wyt yn meddu ar gyneddfau gwr,
40 y mae dy freuddwyd yn arwydd da, yr un diobaith.
Y cwn y bu i ti eu gweld yn amlwg yn dy law,
pe bait yn deall [eu] hiaith daer,
dy deithwyr, sicr eu trywydd,
44 [a]'th negeswyr gwrol ydynt,
A'r ewig wen [oedd] yr arglwyddes
yr oeddet yn ei charu, gwedd ewyn [y môr yn disgleirio dan
yr] haul.
Fe ddaw hi, ac y mae hyn yn sicr,
48 i geisio dy nawdd, a Duw sydd i'th fendithio'.