Y Breuddwyd | |
Fel yr oeddwn, gwn heb gelu, | |
yn hepian mewn lle cuddiedig, | |
gwelais freuddwyd gyda thoriad a gwawrio'r dydd | |
4 | [ac] ar orwel y bore. |
Tybiwn fy mod yn cerdded | |
a haid o gŵn hela [wrth gynllyfan] yn fy llaw, | |
ac yn teithio gydol y dydd ar hyd y rhanbarthau | |
8 | a'r tiroedd yr oeddwn yn gyfarwydd â hwy, |
ac yn disgyn i goedwig, | |
[lle megis] plasty hardd, nid [megis] bwthyn taeog surbwch. | |
Gollwngwn y cŵn i'r coed | |
12 | heb oedi, felly y meddyliwn. |
Yr oeddwn yn heliwr da fel y credwn, | |
taer a dilys [ei] reddf. | |
Gallwn glywed bloeddiadau'r cŵn wrth hela, | |
16 | lleisiau [llawn] ffyrnigrwydd, canu mynych. |
Gwelwn ewig wen uwch y meysydd, | |
hoffi'r helfa yn fawr a wnawn, | |
a haid o gŵn hela ar ras | |
20 | ar ei thrywydd, cywir oedd eu cwrs. |
Cyrchu'r bryn [a wnaeth yr ewig], yn berffaith ei ffurf, | |
a thros ddwy esgair a chrib, | |
ac ymlaen dros y llethrau | |
24 | ar wib a'i thaith [fel taith] hydd, |
a dod ar ôl iddi gael ei dofi, | |
a minnau yn llawn angerdd, i geisio fy nawdd. | |
[Ei] dwyffroen yn noeth; deffro a wneuthum. | |
28 | Gŵr blysig [oeddwn]; yn y bwthyn y bûm [yr holl amser]. |
Euthum drannoeth cyn gynted ag y gwawriodd | |
i'r cyrion i geisio esboniwr. | |
Pan ddaeth y dydd cefais hyd i wraig ddoeth, | |
32 | a ffodus [oedd hynny]. |
Cyfaddef a wneuthum wrthi | |
yr hyn a welswn [sef] arwyddion y nos. | |
'Myn Duw, y wraig ddoeth, pe bai modd i ti | |
36 | gael gwared ar yr hud hwn, |
fe'th ganmolwn yn fwy na neb. | |
Clwyfau lluosog sydd i'm rhan. Un diobaith wyf '. | |
'Os wyt yn meddu ar gyneddfau gŵr, | |
40 | y mae dy freuddwyd yn arwydd da, yr un diobaith. |
Y cŵn y bu i ti eu gweld yn amlwg yn dy law, | |
pe bait yn deall [eu] hiaith daer, | |
dy deithwyr, sicr eu trywydd, | |
44 | [a]'th negeswyr gwrol ydynt, |
A'r ewig wen [oedd] yr arglwyddes | |
yr oeddet yn ei charu, gwedd ewyn [y môr yn disgleirio dan yr] haul. | |
Fe ddaw hi, ac y mae hyn yn sicr, | |
48 | i geisio dy nawdd, a Duw sydd i'th fendithio'. |