Nodiadau: 79 - Y Breuddwyd

Fersiwn hwylus i

GDG 39; SPDG cerdd 31; HGDG 107

Breuddwyd yw cefndir y cywydd hwn. Dywed Dafydd iddo gael breuddwyd ac iddo ei weld ei hun yn ei freuddwyd yn hela ewig. Pan lwyddodd yn y diwedd i'w dal, a'r ewig o'i flaen yn anadlu'n drwm, deffrodd. Yn rhan olaf y cywydd clywn iddo geisio cyngor gan hen wreigan ac iddi ddehongli arwyddocâd yr hyn a welsai trwy ei hun. Dengys y dehongliad mai i ddosbarth cywyddau serch Dafydd y perthyn y gerdd hon drachefn.

Chwedl 'Breuddwyd Macsen' yw'r deunydd sy'n cyfateb agosaf at y cywydd er mai cyfatebiaethau cyffredinol sydd rhwng y chwedl ar y naill law a'r cywydd ar y llaw arall (ond nid yw Rachel Bromwich yn crybwyll y cywydd hwn yn ei thrafodaeth ar gyfeiriadau Dafydd at y chwedlau, ac at 'Freuddwyd Macsen' yn benodol, gw. APDG 135–6). Yn y chwedl adroddir fel y dewisodd Macsen, ymherodr Rhufain, fynd i hela ac fel y bu iddo gael breuddwyd wrth iddo orffwys. Fe'i gwelodd ei hun yn teithio i wlad ddieithr lle y cyfarfu â merch brydferth, a phan oedd y ddau yn cofleidio, a gruddiau'r naill yn cyffwrdd â gruddiau'r llall, deffrôdd yr ymherodr. Yn y diwedd, wedi iddo geisio yn ofer gyngor doethion Rhufain, llwydda i ddarganfod y ferch brydferth, sef Elen ferch Eudaf, a'i phriodi. Gwahanol iawn yw'r defnydd a wnaeth Iolo Goch o'r chwedl yn ei gywydd ef i Syr Hywel y Fwyall, gw. GIG cerdd II; A Cynfael Lake, 'Breuddwyd Iolo Goch', YB 15 (1988), 109–20.

Y mae'r cywydd yn un syml iawn o ran ei arddull a'i eirfa. Symudir o'r dechrau i'r diwedd fesul llinell a defnyddir y cysylltair a i gysylltu nifer o'r datganiadau â'i gilydd (ond geill fod hyn yn fwriadol; y mae cyfresi o frawddegau wedi eu cysylltu â'r cysylltair a yn un o nodweddion arddull amlycaf y chwedlau rhyddiaith). Prin yw'r sangiadau ac ni pherthyn iddynt ddyfnder ystyr nac amwysedd. Syml hefyd yw'r eirfa ac ni ddefnyddiwyd namyn dyrnaid o eiriau cyfansawdd trwy gydol y cywydd. Ar y tir hwn rhaid mynegi amheuon ynghylch dilysrwydd y cywydd er nad ymddengys fod unrhyw ansicrwydd ym meddwl golygydd GDG. I Ddafydd y priodolir y cywydd yn yr holl destunau (ac eithrio CM 5 ond collwyd y diwedd). Diogelwyd y cywydd mewn rhagor na 30 ffynhonnell er mai i'r 18g y perthyn nifer ohonynt. Prin, fodd bynnag, yw'r ffynonellau annibynnol. Digwydd y cywydd yn H 26 ond nid yn y rhan sy'n tarddu o'r Vetustus.

Ni ddiogelwyd y cywydd mewn ffurf sy'n cyfateb yn union i drefn y testun golygedig mewn unrhyw lawysgrif. Fersiwn cymharol fyr o'r cywydd a ddiogelwyd yn M 161 ac yn y dosbarth o lawysgrifau sy'n rhannu'r un gynsail (a CM 5, C 2.616, LlGC 6706 a LlGC 560 yn eu plith); collwyd cynifer â chwe chwpled yn y fersiwn hwn. Cynigir fersiwn pur lawn yn BM 48 a gwelir bod trefn y cwpledi yn cyfateb i drefn dosbarth M 161 ac eithrio'r rhan olaf lle y dehonglir arwyddocâd y freuddwyd. Y mae trefn BM 48 yn wahanol i drefn yr holl lawysgrifau eraill yn y cyswllt hwn. Fodd bynnag collwyd dau gwpled yn BM 48, sef llau. 9–10 a 25–6, a gwelir bod y testun hwn yn cynnwys un cwpled arall na ddewiswyd ei ymgorffori yn y testun golygedig. Y mae testun pur lawn yn H 26 drachefn. Collwyd un cwpled, un arall y tro hwn, sef llau. 3–4, a rhoddwyd cwpled strae nad yw'n digwydd mewn unrhyw destun arall ar ddechrau'r cywydd. Y mae'r drefn, fodd bynnag, yn bur gymysglyd. Nid yw C 19, Ll 156, Pen 104 a BM 38 yn cyfateb yn union i destun BM 48 na H 26 ond ategir rhai gweddau ar drefn a chynnwys y ddau destun hynny. Yn C 19, er enghraifft, cynhwyswyd cwpled coll H 26 ac un o ddau gwpled coll BM 48 tra cynnwys Ll 156, Pen 104 a BM 38 y cwpled ychwanegol sy'n digwydd yn BM 48 ond nas ymgorfforwyd yn y testun. Diau fod a wnelo'r traddodiad llafar â threfn yr amryfal fersiynau er mai prin, at ei gilydd, yw'r amrywio o safbwynt darlleniadau'r llinellau unigol. Y mae hynny yn destun syndod ar un ystyr, ond, fel y nodwyd, y mae'r eirfa a'r arddull yn dra syml. O ganlyniad yr oedd yn llai tebygol y byddai'r sawl a fyddai'n datgan y cywydd neu yn ei gopïo yn camddeall ac yn camddehongli'r cynnwys.

Anodd deall penderfyniad Thomas Parry wrth olygu'r cywydd yn GDG. Dilynodd drefn M 161 ond ymgorfforodd yn ei destun dri o'r cwpledi coll sy'n digwydd yn H 26 a BM 48 (llau. 27–8, 35–8). Serch hynny, anwybyddodd y tri arall a gollwyd yn M 161 (llau. 7–8, 13–14, 29–30). Y mae'n wir nad yw'r tri hyn yn ychwanegu'n ddirfawr at y stori a adroddir er bod tystiolaeth gref o blaid eu dilysrwydd. Nid yw llau. 29–30 a llau. 31–2 yn annhebyg i'w gilydd er mai'r cwpled cyntaf yw'r cyfoethocaf o ran ei gynnwys pe bai rhaid dewis rhwng y naill a'r llall.

Cynghanedd: croes 9 ll. (19%), traws 13 ll. (27%), sain 15 ll. (31%), llusg 11 ll. (23%)

2. dargwsg   Gall fod yn enw neu yn ferfenw, gw. GPC 893. Yr ail sy'n gweddu yma.

  n wreiddgoll.

3. ar glais   Yn Llst 156 y diogelwyd y darlleniad hwn (ond gellid tybio mai'r un ffurf wedi ei llygru sydd yn C 19 a Wy 2) ac fe'i mabwysiadwyd yn nhestun GDG. Ar clais y dydd 'toriad dydd', gw. GPC 489. Yn CM 5 ailadroddir yn ael yn llau. 3 a 4.

4. boreuddydd   Mabwysiadwyd y ffurf hon sy'n digwydd yn yr holl lsgrau. a cf. 146.17n lle y mae'r gynghanedd lusg yn mynnu'r ffurf borau.

5. tybiwn  Yng nghywydd 'Y Cloc' drachefn dychmyga'r bardd ei fod yn breuddwydio a'i fod yng nghwmni'r ferch a garai. Yr un ferf sy'n cyflwyno'r breuddwyd yn y cywydd hwnnw: Tybiaswn o'm tyb isod / Gan fy mun gynnau fy mod, gw. 64.17–18.

9. gestwng   Amrywiad ar y ffurf gostwng, gw. GPC 1514-15. Y gynghanedd lusg yn mynnu'r ffurf er mai gostwng sydd yn y rhan fwyaf o'r llsgrau. Awgrymwyd mai prin yw'r sangiadau yn y cywydd. Er bod sawl darlleniad llwgr yn C 19 cynigir rhai ffurfiau awgrymus gan gynnwys A'i fforestydd ffriw ostwng ar gyfer y llinell hon. Gw. ymhellach 79.43n.

10.   Dyma'r llinell a newidiodd fwyaf wrth iddi gael ei throsglwyddo. Dilynwyd darlleniad CM 5 (a Llst 133). Collwyd y cwpled yn BM 48.

plas   'Palas, cartref ysblennydd' erbyn heddiw ond er bod yr ystyr honno wedi ei mabwysiadu yn gynnar yr oedd y gair yn llai penodol ei gynodiadau ac yn gyfystyr â 'mangre, lle (agored), tŷ, cartref ' gynt, gw. GPC 2819. Diau mai'r ystyr flaenaf sy'n taro yma gan fod y neuadd urddasol yn y coed yn cael ei chyferbynnu â bwthyn moel y taeog garw.

15. goriau   Fe'i dosbarthwyd yn GPC 1385–6 d.g. gawr 'bloedd, dolef, trwst', a'i ddeall felly yn un o ffurfiau lluosog y gair hwnnw. Ond gellid lluosog awr 'amser penodol i weddïo' a cf. yr enghraifft a ddyfynnir yn GPC 242 kanu offerenneu a phlygeinieu ac oryeu drossom. Barnai D J Bowen mai'r ail a weddai orau a galwodd sylw at y modd y cyffelybir cyfarth cŵn hela i seiniau a gysylltir â'r eglwys mewn cywyddau gan Utun Owain a Gruffudd Hiraethog, gw. 'Nodiadau ar waith Dafydd ap Gwilym', LlC 7 (1962–3), 244–9. Cyfeiriodd hefyd at y modd y byddid yn dewis mathau gwahanol o fytheiaid er mwyn sicrhau bod eu seiniau yn cydgordio.

21. diwalltrum   Gwrthg. yn ddiballdrum H 26 a BM 48. Ni ddigwydd darlleniad GDG Cyrchu'r allt dros ddiwalldrum yn y llsgrau. er na ddangosir hynny yn yr Amrywiadau.

28. glwth   Y mae'r ystyron 'gwancus, blysig, bolrhwth', gw. GPC 1413, yn taro yma (a cf. GDG 119.6 Nid gwahodd glwth i fwth fydd) ond efallai fod i'r ansoddair ystyron megis 'diog, segur' hefyd a bod diymadferthedd y breuddwydiwr yn cael ei gyferbynnu â gweithgarwch egnïol yr heliwr.

29–30.   Trawsosodwyd y ddwy linell yn H 26. Gan fod cynghanedd lusg ym mraich gyntaf y cwpled, diau mai BM 48 a ddiogelodd y drefn gywir.

38. anobaith   Swyddogaeth ansoddeiriol sydd iddo yma, gw. GPC 148.

39.   Gwelir y darlleniad da o beth mewn dyrnaid o lsgrau., a H 26 yn eu plith, a geill fod yma ymgais i resymoli llinell a oedd yn cynnwys y gystrawen ansoddair + a + enw, sef da a beth. Ar y gystrawen honno, gw. 39.30n, 114.1n. Darlleniad ystyrlon arall a gynigir yw Da byth y diobeithiwr.

42. pe gwypud   Digwydd ffurf 3 ll.amhff. dib. y ferf mewn sawl testun ond diau mai'r ffurf 2 un.amhff.dib. a fabwysiadwyd sydd fwyaf ystyrlon yn y cyd-destun er bod bai gormodd odlau yn y llinell, gw. CD 300.

43.   Cynigir y darlleniad Gwan dy hwyl, gwn dy helynt yn C 19, gw. uchod 79.9n. Ailadroddir y rhagenw 2 un. ar ddechrau dwy linell y cwpled ond gellid da hwylwyr yn ll. 43 er nad oes i'r darlleniad warant lawysgrifol gadarn.