â â â Y Ffwl a'i Gysgod
1â â â Un agwedd, oferedd fu, 
2â â â Oerni cur, yr wy'n caru 
3â â â Â'r ffôl yn ymlid ar ffyrdd 
4â â â Ei gysgod trwy goed gwisgwyrdd. 
5â â â Parabl mab a fydd trabalch; 
6â â â Cyd bo cynt no'r gwynt neu'r gwalch, 
7â â â Naws dig, ni bydd nes y daw, 
8â â â Barn hen oedd, byrnhawn iddaw, 
9â â â Brwysg feddwl, braisg gyfaddas, 
10â â â Byr ei glod, no'r bore glas. 
11â â â Nid â ei gysgod, a dau, 
12â â â O'i ymyl yn ei amau. 
13â â â Un foddion, anufyddoed, 
14â â â Wyf â hwn, mau ofwy hoed; 
15â â â Minnau sydd, meinwas oeddwn, 
16â â â Mawr o hud, myn Mair, yw hwn, 
17â â â Yn nychu yn fain achul 
18â â â O serch yr addfeinferch ful. 
19â â â Gwreiddiodd cariad goreuddyn; 
20â â â Glud i'm deheufron y glyn, 
21â â â Lliw eiry mân uwch llaw'r mynydd, 
22â â â Lloer deg, er ys llawer dydd. 
23â â â Hon a wasg fy ngrudd glasgrych; 
24â â â Heno nid nes, hoywnod nych, 
25â â â Cael meddwl rhiain feinir, 
26â â â No'r dydd cyntaf o'r haf hir, 
27â â â Mwy no'r ffôl ar ôl yr ôd, 
28â â â O'i gwsg am ddal ei gysgod. 
29â â â  Diamynedd y'm gwneddyw, 
30â â â Diriaid ym diweiried yw, 
31â â â Ni symud mynud meinir 
32â â â Na'i gwên er celwydd na gwir, 
33â â â Mynog wedd, mwyn yw a gwiw, 
34â â â Mwy no delw, manod eiliw. 
35â â â Ni'm cymer i fy rhiain, 
36â â â Ni'm gwrthyd f'anwylyd fain. 
37â â â Ni'm lludd meinwar i'w charu, 
38â â â Ni'm lladd ar unwaith em llu. 
39â â â Ond o'm gwyl gwen gymheniaith, 
40â â â Degau chwimp, yn digio chwaith, 
41â â â Cael a wnaf, er celu nwyf, 
42â â â Cusan yr awr y ceisiwyf. 
43â â â A glas chwerthin, gwedd hinon,
44â â â Gwyngen hawdd, a gawn gan hon. 
45â â â Ped fai Ddoethion, wirion wedd, 
46â â â Rhufain, llyna beth rhyfedd, 
47â â â Yn ceisiaw, alaw eilun, 
48â â â Nychu yr wyf, ni châi'r un 
49â â â Adnabod, nod anniben, 
50â â â O nawd gwir anwydau gwen. 
51â â â Ni wn pa un, fun feinir, 
52â â â Yw hyn, lliw gwyn, yn lle gwir, 
53â â â Ai gwatwar, cynnar y cad, 
54â â â Am wir gur, ai mawr gariad. 
55â â â Degau ddadl, digio 'dd ydwyf; 
56â â â Da bychan ym, dibech nwyf, 
57â â â Dwyn hirnych, dyn gwych ei gwedd, 
58â â â Dwyoes, a marw o'r diwedd.