Y Ffwl a'i Gysgod
   Yn yr un modd (oferedd fu, 
   diflastod poen) yr wyf yn caru 
   â'r ffwl yn ymlid ar ffyrdd 
4   ei gysgod drwy goed gwyrdd eu gwisg. 
   Geiriau llanc a fydd yn dra balch; 
   er ei fod yn gynt na'r gwynt neu'r gwalch 
   (anian ddig), ni fydd iddo ddod yn nes 
8   (hen farn ydoedd) yn y prynhawn 
   (meddwl meddw, yn addas o braff, 
   byr ei glod) nag [yn] y bore glas. 
   Nid â ei gysgod, sy'n tewi, 
12   o'i ymyl [ac mae] yn ei amau. 
   Â'r un nodweddion (oedran trahaus) 
   wyf â hwn (fy ymweliad o boen): 
   minnau sydd (roeddwn yn was main; 
16   hudoliaeth fawr, myn Mair, yw hyn) 
   yn nychu yn fain ac yn denau 
   oherwydd serch y ferch fain a gwylaidd. 
   Gwreiddiodd cariad [y] ferch orau; 
20   yn gyson yn fy neheufron y mae'n glynu 
   (lliw eira mân uwchlaw'r mynydd, 
   lloer deg) ers llawer dydd. 
   Hon sy'n gwasgu fy ngrudd llwyd a chrychiog; 
24   heno nid nes (nych hardd ei nod) 
   [yw] ennill bryd morwyn fain a thal 
   nag [yn] y dydd cyntaf o'r haf hir, 
   dim mwy na'r ffwl ar ôl yr eira 
28   o'i gwsg [sydd] yn ceisio dal ei gysgod. 
   Mae hi wedi fy ngwneud yn ddiamynedd, 
   anfad imi yw mor ddiwair ydyw. 
   Ni newidia ymddygiad [y] ferch fain a hir, 
32   na'i gwên, er celwydd na gwirionedd, 
   (gwedd fonheddig, mwyn yw a gwiw) 
   mwy na delw (fel lliw eira mân). 
   Ni'm cymer i fy morwyn, 
36   ni'm gwrthyd f'anwylyd fain. 
   Ni'm rhwystra'r ferch denau a gwâr rhag ei charu, 
   ni'm lladd gem llu ar unwaith. 
   Ond os gwêl [y] ferch gymen ei hiaith, 
40   ([â] symudiad Tegau) fi yn digio hefyd, 
   cael a wnaf (er cuddio nwyd) 
   gusan y funud y ceisiaf ef. 
   A lledchwerthin (gwedd tywydd braf, 
44   gwên hawdd) a gawn gan hon. 
   Pe bai Doethion (gwedd bur) 
   Rhufain (dyna beth rhyfedd) 
   yn ceisio ([ferch] ag ymddangosiad lili'r dwr; 
48   nychu yr wyf), ni châi'r un 
   adnabod (nod ofer) 
   yn gywir nodweddion [y] ferch. 
   Ni wn pa un (ferch fain a thal) 
52   yw hyn (lliw gwyn) yn wir: 
   ai gwatwar (yn gynnar y'i cafwyd) 
   am boen wirioneddol, ai cariad mawr. 
   [Ferch ag] ymddiddan Tegau, digio yr wyf; 
56   lles bychan [sydd] i mi (nwyd di-fai) 
   [o] ddwyn nychdod maith, ferch wych ei gwedd, 
   [am] ddwyoes, a marw o'r diwedd.