1 Vn agwedd oferedd fu
2 Oerni cur yr wy 'n caru
3 A'r ffol yn ymlid ar ffyrdd
4 Ei gyscod mewn coed gwisgwyrdd
5 Parabl mab a fydd trabalch
6 Cyd bo cynt na'r gwynt neu'r gwalch
7 Naws dig ni bydd nes y daw
8 Barn hen oedd byrnhawn iddaw
9 Brwysg feddwl braisc gyfaddas
10 Byrr ei glod nâ'r boreu
glâs
11 Nid â ei gyscod a dau
12 O'i ymyl yn ei ammau
13 Vn foddion anvfyddoed
14 Wyf a hwnn mau ofwy hoed
15 Minnau sydd meinwas oeddwn
16 Mawr ei hud myn Mair yw hwnn
17 Yn nychu yn fain achul
18 O serch yr addfeinferch ful
23 Hyn a wasg fy-ngrudd glasgrych
24 Heno nid oes hoewnod nychwych
25 Cael meddwl rhiain fainir
26 [52r] Nâ'r dydd cyntaf o'r hâf hir
27 [Mwy nar ffol ar ol yr od]
28 [oi gwsc am ddal ei gyscod]
29 Diammynedd y'm gwneddyw
gwneddyw gwnaeth
30 Diried i'm diweiried yw
31 Ni symmud munud meinir
32 Na'i gwen er celwydd nâ gwir
33 Mynawg wedd myr mwyn yw a gwiw
34 Mwy nâ delw manod eiliw
35 Ni'm cymmer i fy rhiain
36 Ni'm gwrthyd fanwylyd fain
37 Ni'm lludd meinwar i'w charu
38 Ni'm lladd ar vnwaith em llu
39 Ond o'm gwyl gwen gymheniaith
40 Degau chwimp yn fi'n digio
chwaith
41 Cael a wnaf er celu nwyf
42 Cusan yr awr y ceisiwyf
43 A glas chwerthin gwedd hinon
44 Gwyngen hawdd a gawn gan honn
51 Ni wn pa vn fun feinir
52 Yw hyn lliw gwyn yn lle gwir
53 Ai gwatwar cynnar y cad
54 Am wir gur ai mawr gariad
55 Degau ddadl digiaw 'dd ydwyf
56 [52v] Da bychan i'm dibech nwyf
57 Dwyn hirnych dyn
er gwych ei gwedd
58 Dwywesoes a marw o'r diwedd
Da' ap Glm'
Nodiadau
Exr per vetust
Ceir marciau " wrth ymyl llau. 5, 6, 29, 30, 34, 35, a 36