â â â Saethu'r Ferch
1â â â Gweywyr, cyfeddachwyr cof, 
2â â â A â'n wân trywan trwof, 
3â â â Cynt no hwyl i gan ddwylaw 
4â â â Y pilwrn drwy'r brwynswrn draw 
5â â â Rhag mor derrwyn gynhwynawl 
6â â â Y gwrthyd fy myd fy mawl. 
7â â â Saeth awchlem wyllt syth wychloes 
8â â â Dan ben ei bron gron yn groes 
9â â â Drwy na thorro, tro treiglfrys, 
10â â â Na'r croen nac unpwyth o'r crys. 
11â â â Bach haearn gafaelgarn gael 
12â â â Dan ddwyen y dyn dduael: 
13â â â Uchel y rhof fy llawnllef, 
14â â â 'Och' fwy nog 'och fi' nac 'ef'! 
15â â â Taro ei phen, cledren clod, 
16â â â Â gisarn ar un gosod: 
17â â â Rhydraws yw a'i gwarafun; 
18â â â Wb, gwae fi, ai byw gwiw fun? 
19â â â Os marw fydd, ys mawr wae fi, 
20â â â Y gwiwddyn pefr o'm gweddi. 
21â â â Rhag mor anawdd, drymgawdd dro, 
22â â â Ei hennill, hoedl i honno, 
23â â â  Dewisaf oedd, gyoedd ged, 
24â â â Ei dianc rhag ei däed.