Saethu'r Ferch | |
Gweywyr, cyfeddachwyr cof, | |
A â'n wân trywan trwof, | |
Cynt no hwyl i gan ddwylaw | |
4 | Y pilwrn drwy'r brwynswrn draw |
Rhag mor derrwyn gynhwynawl | |
Y gwrthyd fy myd fy mawl. | |
Saeth awchlem wyllt syth wychloes | |
8 | Dan ben ei bron gron yn groes |
Drwy na thorro, tro treiglfrys, | |
Na'r croen nac unpwyth o'r crys. | |
Bach haearn gafaelgarn gael | |
12 | Dan ddwyen y dyn dduael: |
Uchel y rhof fy llawnllef, | |
'Och' fwy nog 'och fi' nac 'ef'! | |
Taro ei phen, cledren clod, | |
16 | Â gisarn ar un gosod: |
Rhydraws yw a'i gwarafun; | |
Wb, gwae fi, ai byw gwiw fun? | |
Os marw fydd, ys mawr wae fi, | |
20 | Y gwiwddyn pefr o'm gweddi. |
Rhag mor anawdd, drymgawdd dro, | |
Ei hennill, hoedl i honno, | |
Dewisaf oedd, gyoedd ged, | |
24 | Ei dianc rhag ei däed. |