| Saethu'r Ferch | |
| Gweywyr, cyfeddachwyr cof, | |
| A â'n wân trywan trwof, | |
| Cynt no hwyl i gan ddwylaw | |
| 4 | Y pilwrn drwy'r brwynswrn draw |
| Rhag mor derrwyn gynhwynawl | |
| Y gwrthyd fy myd fy mawl. | |
| Saeth awchlem wyllt syth wychloes | |
| 8 | Dan ben ei bron gron yn groes |
| Drwy na thorro, tro treiglfrys, | |
| Na'r croen nac unpwyth o'r crys. | |
| Bach haearn gafaelgarn gael | |
| 12 | Dan ddwyen y dyn dduael: |
| Uchel y rhof fy llawnllef, | |
| 'Och' fwy nog 'och fi' nac 'ef'! | |
| Taro ei phen, cledren clod, | |
| 16 | Â gisarn ar un gosod: |
| Rhydraws yw a'i gwarafun; | |
| Wb, gwae fi, ai byw gwiw fun? | |
| Os marw fydd, ys mawr wae fi, | |
| 20 | Y gwiwddyn pefr o'm gweddi. |
| Rhag mor anawdd, drymgawdd dro, | |
| Ei hennill, hoedl i honno, | |
| Dewisaf oedd, gyoedd ged, | |
| 24 | Ei dianc rhag ei däed. |