Saethu'r Ferch
   Gwaywffyn, cymdeithion y cof, 
   a â'n drywaniad treiddiol trwof, 
   yn gynt na thaith (oddi wrth ddwy law) 
4   y saeth drwy'r mwdwl o frwyn draw 
   oherwydd mor daer o naturiol 
   y gwrthyd fy nghariad fy mawl. 
   [Bydded i] saeth finiog wyllt syth [sy']n peri poen angerddol
		  
8   [fynd] dan ei bron gron yn groes 
   cyn belled nad yw'n torri (taith frysiog ei hynt) 
   y croen nac un pwyth o'r crys. 
   [Bydded i] fachyn haearn â charn gyrraedd 
12    dan ên y ferch ddu ei haeliau:
   yn uchel y rhof fy llef lawn, 
   'och' fwy nag 'och fi!' neu 'och ef!'. 
   [Bydded i rywun] daro ei phen, colofn clod, 
16   â bwyall ryfel ar un trawiad: 
   cryf iawn yw'r sawl sy'n atal hynny; 
   och, gwae fi, ai byw y ferch wych? 
   Os marw fydd y ferch hardd loyw 
20   oherwydd fy ngweddi, gwae mawr imi. 
   Gan mor anodd (taith o ddigofaint trwm) 
   yw ei hennill (bywyd [hir] iddi!) 
   y peth gorau fyddai (anrheg gyhoeddus) 
24   iddi ddianc gan mor dda ydyw.