Paraphrase: 81 - Saethu'r Ferch

Saethu'r Ferch

Gwaywffyn, cymdeithion y cof,
a â'n drywaniad treiddiol trwof,
yn gynt na thaith (oddi wrth ddwy law)
4y saeth drwy'r mwdwl o frwyn draw
oherwydd mor daer o naturiol
y gwrthyd fy nghariad fy mawl.

[Bydded i] saeth finiog wyllt syth [sy']n peri poen angerddol
8[fynd] dan ei bron gron yn groes
cyn belled nad yw'n torri (taith frysiog ei hynt)
y croen nac un pwyth o'r crys.
[Bydded i] fachyn haearn â charn gyrraedd
12 dan ên y ferch ddu ei haeliau:
yn uchel y rhof fy llef lawn,
'och' fwy nag 'och fi!' neu 'och ef!'.
[Bydded i rywun] daro ei phen, colofn clod,
16â bwyall ryfel ar un trawiad:
cryf iawn yw'r sawl sy'n atal hynny;
och, gwae fi, ai byw y ferch wych?

Os marw fydd y ferch hardd loyw
20oherwydd fy ngweddi, gwae mawr imi.
Gan mor anodd (taith o ddigofaint trwm)
yw ei hennill (bywyd [hir] iddi!)
y peth gorau fyddai (anrheg gyhoeddus)
24iddi ddianc gan mor dda ydyw.