| Saethu'r Ferch | |
| Gwaywffyn, cymdeithion y cof, | |
| a â'n drywaniad treiddiol trwof, | |
| yn gynt na thaith (oddi wrth ddwy law) | |
| 4 | y saeth drwy'r mwdwl o frwyn draw |
| oherwydd mor daer o naturiol | |
| y gwrthyd fy nghariad fy mawl. | |
| [Bydded i] saeth finiog wyllt syth [sy']n peri poen angerddol | |
| 8 | [fynd] dan ei bron gron yn groes |
| cyn belled nad yw'n torri (taith frysiog ei hynt) | |
| y croen nac un pwyth o'r crys. | |
| [Bydded i] fachyn haearn â charn gyrraedd | |
| 12 | dan ên y ferch ddu ei haeliau: |
| yn uchel y rhof fy llef lawn, | |
| 'och' fwy nag 'och fi!' neu 'och ef!'. | |
| [Bydded i rywun] daro ei phen, colofn clod, | |
| 16 | â bwyall ryfel ar un trawiad: |
| cryf iawn yw'r sawl sy'n atal hynny; | |
| och, gwae fi, ai byw y ferch wych? | |
| Os marw fydd y ferch hardd loyw | |
| 20 | oherwydd fy ngweddi, gwae mawr imi. |
| Gan mor anodd (taith o ddigofaint trwm) | |
| yw ei hennill (bywyd [hir] iddi!) | |
| y peth gorau fyddai (anrheg gyhoeddus) | |
| 24 | iddi ddianc gan mor dda ydyw. |