Nodiadau: 81 - Saethu'r Ferch

GDG 100

Disgrifiad Huw M. Edwards o'r gerdd hon yw 'a witty and easily intelligible burlesque of one of courtly love's most distinctive conventions, that of the arrow of love'. Mae'n agor gyda'r bardd yn defnyddio'r dechneg gyfarwydd o ddisgrifio poenau serch yn nhermau poenau saethau a gwaywffyn go iawn. Fel y dywed Edwards, '[t]he stricken poet wishes the same fate on his beloved, but on condition that the arrow does not pierce her skin or as much as a stitch of her smock! With tongue firmly in cheek he then expresses concern for her well-being, and concludes that he much prefers her alive, "because of her goodness"!' (DGIA 251). Mae Edwards hefyd yn nodi bod cryn debygrwydd rhwng y gerdd hon a rhai o gerddi'r trwbadwriaid a'r trwferiaid. Pwyslais ychydig yn wahanol sydd i'r teitlau a geir yn y llawysgrifau. Yn Pen 49 (o LlWM) ceir y teitl syml 'kywydd y rhegev' ac mewn llaw ddiweddarach yn LlGC 560 y teitl yw 'mae ef yn rhegi i gariad rhag i gonested ag er hynnv yn i bendithio'.

Cynghanedd: croes 3 ll. (13%), traws 6 ll. (25%), sain 11 ll. (46%), llusg 2 ll. (8%), digynghanedd 2 (8%).

Digwydd y gerdd hon mewn pedair ffynhonnell gynnar, sef Ll 27, Llyfr Gwyn Hergest (copi yn Wy 2 ac amrywiadau yn Pen 49), Llyfr Wiliam Mathew (copi yn Pen 49), a'r Vetustus (copïau yn H 26 a G 3). Mae Ll 27, LlGH a LlWM yn aml yn cytuno â'i gilydd yn erbyn y Vetustus, e.e. llau. 2, 5–6, 10, 11, 15, a 17, ac mae perthynas agos rhyngddynt. Dilynwyd y tair llawysgrif hynny wrth lunio'r testun, ac eithrio yn achos llau. 10 ac 11 (gw. y nodiadau isod).

Yr un drefn sydd i'r llinellau yn y pedair ffynhonnell gynnar, ac eithrio bod llau. 5–6 yn eisiau yn y Vetustus a bod gan LlGH gwpled ychwanegol ar ôl ll. 12. Mae'r cwpled sy'n eisiau o'r Vetustus yn rhoi synnwyr da, ac felly, er bod peth ansicrwydd ynglŷn â'r ymadrodd mor derrwyn gynhwynawl yn ll. 5 (gw. y nodyn), mae dadl gref dros ei dderbyn. Mae'r ddadl o blaid cynnwys y cwpled ychwanegol yn LlGH yn llawer gwannach. Gan fod fod Ll 27, LlGH a LlWM yn ffurfio grŵp sy'n perthyn yn agos i'w gilydd gyda thestun sy'n aml yn wahanol i'r Vetustus, byddai'n anodd esbonio sut y cafodd y cwpled ei golli o Ll 27 a LlWM ar y naill law ac o'r Vetustus ar y llaw arall, ond ei gadw yn LlGH.

Sylwer bod Thomas Parry yn derbyn y cwpled hwn (sef GDG 100.13–14: 'Drwy na chyfarffo, dro drwg, / Diwael gulael, â golwg'). Ond yn Wy 2 ceir trefn wahanol: 'diwael gulael a golwg / drwy na chyffarffo dro drwg'. Yn yr amrywiadau o LlGH a geir yn Pen 49 ceir 'b drwy na chyfarffo dro drwg / a di wael gulael a golwg' ac mae lleoliad y llythrennau a a b yn awgymu'n gryf mai trefn Wy 2, ac nid trefn GDG, a oedd yn LlGH. Mae GDG hefyd yn symud llau. 13–14 i ddod ar ôl ll. 18, yn groes i dystiolaeth y llawysgrifau. Mae'n debyg i Thomas Parry ail-leoli'r cwpled hwn gan y credai na ddylai dorri ar draws y disgrifiadau o'r saeth, y bach a'r gisarn. Ond nid yw hynny'n angenrheidiol o ran rhediad y gerdd.

1. gweywyr   Ffurf luosog gwayw, a all olygu 'gwawyffon' neu 'boen llym a sydyn'. Y ffurf safonol ddiweddar gwewyr a geir yn GDG, ond gweywyr sydd yn y llawysgrifau pwysig ac mae digon o enghreifftiau o'r ffurf honno yn GPC 1606.

4. pilwrn   Yr ystyr a gynigir yn GPC 2804 yw 'dart, saeth (ysgafn), picell, ?gwaywffon'; hon yw'r enghraifft gynharaf a nodir yno. Oherwydd y cyfeiriad at y 'ddwy law' (ll. 3) yr ystyr 'saeth' sy'n gweddu orau. Ond mae tarddiad y gair yn dywyll, er bod GPC yn awgrymu ei fod i'w gysylltu â'r Lladin pilum 'gwayw'. Y gair hwnnw yn y pen draw a roes y S. pile 'a pointed missile of some kind; an arrow or a dart', gw. MED d.g. Fe allai pilwrn fod yn fenthyciad o ffurf S. megis piler/pilo(u)r (cf. siswrn o'r S. cisour) ond ni chafwyd enghreifftiau addas o'r ffurfiau hynny.

brwynswrn   Am yr ystyr 'cock of rushes' gw. GPC 337. Sôn am darged wedi'i wneud o frwyn y mae'r bardd.

5. mor derrwyn gynhwynawl   Er bod y llawysgrifau o blaid terwyn, mae'r gynghanedd lusg (-ŵyn-) yn profi'r ffurf terrwyn. Tebyg iawn yw ystyr y ddwy ffurf, sef 'ffyrnig, tanbaid, taer', gw. GPC 3487–8 a GMB 85 (3.12n). Sylwer bod Ll 27, LlGH a LlWM yn awgrymu'r darlleniad 'mor derwyn cyn-/canhwynawl' (nid yw'r llinell hon yn y Vetustus). Gellid cymharu ter(r)wyn cynhwynawl ag ymadrodd enwol megis bonheddig / pechod / ynfyd cynhwynol a nodir yn GPC 788. Yn GPC 248 nodir enghreifftiau o mor o flaen enwau yn yr ystyr 'cymaint, mor fawr, y fath', a cymh. GLGC 274 (122.27) Ei dad, mor wrda ydoedd. Ond yma y mae cystrawen y frawddeg yn mynnu mai ystyr ansoddeiriol sydd i terrwyn cynhwynawl. Anodd yw esbonio'r diffyg treiglo yn yr ymadrodd hwnnw, felly rhaid diwygio a darllen mor derrwyn gynhwynawl.

9. drwy na   Sef 'provided that ... not, so long as ... not, if only ... not', gw. GPC 3631.

10. na'r croen nac unpwyth   Dilynwyd y Vetustus yma; ar yr ymadrodd na(c) ... na(c) gw. GMW 232 a GPC 2546.

11. Bach haearn gafaelgarn gael   Darlleniad Ll 27, LlWM a LlGH yw gafaelfarn, ond yma dilynwyd y Vetustus a darllen gafaelgarn. Nodir y ffurf honno yn GPC 1369 (gyda'r ystyr 'carn, said') lle y dyfynnir y llinell hon a hefyd gwpled gan Ruffudd Gryg (sef DGG2 146 [LXXIX.47–8]): 'Bach haearn gafaelgarn gŵr, / A throediog i'r athrodwr'. Gan mai 'llyffethair, hual' yw ystyr troediog gan Ruffudd, a chan ystyried cyfeiriad Dafydd at y bach 'dan ddwyen' y ferch, byddai ystyr fel 'cylch haearn (am y gwddf)' yn gweddu'n burion. Ond eto mae cyd-destun defnydd Dafydd o'r gair yn awgrymu bod y bach haearn yn arf mwy ymosodol. Efallai ei fod yn offeryn tebyg i'r Welsh bill neu'r Welsh hook y ceir cyfeiriadau ato o'r 15g. ymlaen, gw. OED2 d.g.

12. Dan ddwyen y dyn dduael   Gellid diwygio'r llinell gyfan, a darllen Dan y ddwyen, dyn dduael a chan hynny osgoi'r treiglad annisgwyl yn yr ymadrodd hwn. Ond dengys WG 223 y gellid cadw cystain gyntaf dyn yn ddidreiglad ar ôl y fannod er bod yr ansoddair dilynol yn treiglo.

13. llawnllef   Gair cyfansawdd y ceir sawl enghraifft ohono yn GPC 2116, gan gynnwys yr ymadrodd â'i lawnllef 'at the top of one's voice'.

  Llinell ddigynghanedd.

14.    Mae'n debyg mai cynghanedd sain a fwriedid yma, er y gellid dadlau bod cynghanedd groes o gyswllt.

15. taro ei phen   Darlleniad y Vetustus a GDG yw Torri ei phen. Ond mae Ll 27, LlGH a LlWM o blaid taro ei phen. Mae'n debyg fod y darlleniad hwnnw'n arwain yn fwy naturiol at y cwestiwn 'Ai byw gwiw fun?' (ll. 18).

16. gisarn   Benthyciad o'r S.C. gisarn(e), ffurf amrywiol ar gisarme 'a kind of battle-axe, bill, or halberd, having a long blade in line with the shaft, sharpened on both sides and ending in a point'. Digwydd y ffurf isarn hefyd, ond mae'n debyg fod honno'n ddiweddarach, gw. GPC 1399 ac OED2 d.g. gisarme.

17. Rhydraws yw a'i gwarafun   Y darlleniad a awgrymir gan y Vetustus yw 'Rhydraws yw ei gorafun' ('Creulon iawn yw ei gwrthodiad'), sydd hefyd yn bosibl.

   Llinell ddigynghanedd.

23. cyoedd   Ceir sawl enghraifft o'r ffurf amrywiol hon ar cyhoedd (sef darlleniad GDG) yn GPC 742.