k. i gariad y bardd
1 Gweywyr kyfeddachwyr kof
2 a an wan trawan trwof
3 kynt no hwyl i dan ddwylaw
4 y pilwrn drwy /r/ brwynswrn draw
5 [147] Rhag mor derwyn kynhwynawl
6 i gwrthyd fy mud fy mawl
7 saeth awchlem wyllt syth wychloes
8 dan ben i bron gron yn groes
9 dro na thorro tro traiglurys
10 y kroen nag vnpwyth or krys
11 bach haearn gafaelfarn gael
12 dan ddwy en y ddyn dduael
+1 diwael gulael a golwg
+2 drwy na chyffarffo dro drwg
13 vchel i{iawn} rhof fy llawnllef
14 och fwy nag och fi nag ef
15 taro i ffen kledren klod
16 ag issarn ar vn gossod
17 rhydraws yw ai gwarafun
18 wb gwae fi ae byw gwiw fun
19 os marw fydd ys mawr wae fi
20 y gwiwddyn pefr om gweddi
21 rhag mor anawdd drym gawdd dro
22 i hennill hoedl i honno
23 dewissaf oed gyoed ged
24 i diaink rhag i daed
dd ap Gwilim