Cystudd Cariad | |
Curiodd anwadal galon, | |
Cariad a wnaeth brad i'm bron. | |
Gynt yr oeddwn, gwn ganclwyf, | |
4 | Yn oed ieuenctyd a nwyf, |
Yn ddilesg, yn ddiddolur, | |
Yn ddeiliad cariad y cur, | |
Yn ddenwr gwawd, yn ddinych, | |
8 | Yn dda'r oed ac yn ddewr wych, |
Yn lluniwr berw oferwaith, | |
Yn llawen iawn, yn llawn iaith, | |
Yn ddogn o bwynt, yn ddigardd, | |
12 | Yn ddigri, yn heini'n hardd. |
Ac weithian, mae'n fuan fâr, | |
Edwi 'ddwyf, adwedd afar. | |
Darfu'r rhyfig a'm digiawdd, | |
16 | Darfu'r corff, neud arfer cawdd, |
Darfu'n llwyr derfyn y llais | |
A'r campau—dygn y cwympais. | |
Darfu'r awen am wenferch, | |
20 | Darfu'r sôn am darfwr serch. |
Ni chyfyd ynof, cof cerdd, | |
Gyngyd llawen nac angerdd, | |
Na sôn diddan amdanun', | |
24 | Na serch byth, onis eirch bun. |