| Cystudd Cariad | |
| Curiodd anwadal galon, | |
| Cariad a wnaeth brad i'm bron. | |
| Gynt yr oeddwn, gwn ganclwyf, | |
| 4 | Yn oed ieuenctyd a nwyf, |
| Yn ddilesg, yn ddiddolur, | |
| Yn ddeiliad cariad y cur, | |
| Yn ddenwr gwawd, yn ddinych, | |
| 8 | Yn dda'r oed ac yn ddewr wych, |
| Yn lluniwr berw oferwaith, | |
| Yn llawen iawn, yn llawn iaith, | |
| Yn ddogn o bwynt, yn ddigardd, | |
| 12 | Yn ddigri, yn heini'n hardd. |
| Ac weithian, mae'n fuan fâr, | |
| Edwi 'ddwyf, adwedd afar. | |
| Darfu'r rhyfig a'm digiawdd, | |
| 16 | Darfu'r corff, neud arfer cawdd, |
| Darfu'n llwyr derfyn y llais | |
| A'r campau—dygn y cwympais. | |
| Darfu'r awen am wenferch, | |
| 20 | Darfu'r sôn am darfwr serch. |
| Ni chyfyd ynof, cof cerdd, | |
| Gyngyd llawen nac angerdd, | |
| Na sôn diddan amdanun', | |
| 24 | Na serch byth, onis eirch bun. |