Cystudd Cariad
Nychodd calon anwadal,
cariad a fradychodd fy mron.
Roeddwn gynt (rwyf yn gyfarwydd â chan clwyf)
4 mewn oed ieuenctid a nwyf,
yn fywiog, yn ddiddolur,
yn ddeiliad cariad y cur,
yn hudolwr [merch drwy gyfrwng] cân o fawl, yn
ddi-nych,
8 yn dda [mewn] oed [â merch] ac yn ddewr a gwych,
yn lluniwr cerdd ysgafn,
yn llawen iawn, yn llawn iaith,
yn llawn o iechyd, yn ddi-fai,
12 yn ddigri, yn heini, yn hardd.
Ac yn awr (daw llid yn fuan)
edwino yr wyf, tristwch darfyddiad.
Darfu'r beiddgarwch a'm cynhyrfodd,
16 darfu'r corff (mae digofaint yn arferol),
darfu'n llwyr ystod y llais
a'r campau-yn ddybryd y cwympais.
Darfu'r awen am ferch hardd,
20 darfu'r sôn am gyffrowr serch,
Ni chyfyd ynof (cof cerdd)
feddwl llawen nac angerdd,
na sôn diddan amdanynt,
24 na serch byth, oni bai bod merch yn gofyn amdanynt.