Nodiadau: 82 - Cystudd Cariad

GDG 90; HGDG tt. 150–1, SPDG 53

Yn y cywydd syml hwn y mae Dafydd yn hiraethu am y dyddiau gynt pan oedd yn ieuanc a llawn asbri, ac yn caru. Bellach, mae wedi'i fradychu gan gariad, ac yn sgil hynny mae ei gorff a'i alluoedd wedi dirywio. Ond er gwaethaf poenau serch, mae tri gair olaf y cywydd yn dangos y byddai'r bardd yn fodlon rhoi tro arall arni, pe câi'r cyfle.

Y gred gyffredin am Ddafydd yw y bu farw'n ifanc, ond fel y dengys teitl y gerdd yn Ll 133 ('Cywydd yn dangos i DG. fyned yn hen ac yn sobr') gellid dehongli'r cywydd hwn fel portread o fardd sydd wedi mynd heibio i ddyddiau ei ieuenctid. Ond rhaid cofio am yr effaith gorfforol y mae caru yn ei chael ar y bardd, ac mae'n debyg mai ôl merch sy'n ddi-hid ohono sydd i'w weld yn y disgrifiadau hyn, ac nid ôl y blynyddoedd.

Cynghanedd: croes 5 ll. (21%), traws 7 ll. (29%), sain 6 ll. (25%), seingroes 1 ll. (4%), llusg 5 ll. (21%).

Mae'n debyg fod testun llawn o'r cywydd hwn i'w gael ar un adeg yn Llyfr Gwyn Hergest. Ond erbyn cyfnod copïo Pen 49 a Wy 2 y mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r gerdd hon wedi ei cholli o'r llawysgrif honno. Yn Pen 49, copïodd John Davies y ddwy linell gyntaf ar ff. 64r, gan adael gweddill y tudalen yn wag cyn gosod llinellau 21–4 ar waelod ff. 64v. Yn ddiweddarach, fe ymddengys, llenwodd y bwlch â thestun nad yw'n ei enwi'n benodol, ond y gellir bod yn hyderus ei fod wedi ei godi o CM 5. Er nad oedd y testun hwnnw'n ddigon hir i lenwi'r bwlch, dangosodd Davies fod y gerdd yn gyflawn drwy nodi nihil dest ('nid oes dim yn eisiau') ar ôl llinell 20. Copïwyd yr un llinellau (1–2 a 21–4) yn Wy 2 yng nghanol rhan olaf copi o 'Dyddgu a Morfudd' (92), er nad oes dim yn y llawysgrif honno i nodi eu bod yn perthyn i gerdd wahanol. Tybed a oedd tudalen yn eisiau o LlGH, a bod John Davies a chopïydd Wy 2 wedi mynd ati mewn gwahanol ffyrdd i ddiogelu'r dryll o'r gerdd a oedd ar gael iddynt? Ceir testun arall pwysig yn H 26, er bod y cwpled cyntaf a llau. 19–20 yn eisiau, a bod llau. 7–8 yn dilyn ll. 12. At hynny, nid yw'n cadw rhai darlleniadau anodd, fel y gwelir o linellau 14 a 16. Mae testunau CM 5 a Ll 133 yn rhagori arno yn hyn o beth. Yr un drefn sydd i'r llinellau yn CM 5 a Ll 133 a'r testun cyfansawdd yn Pen 49.

1. curiodd   Er ei bod yn deillio o'r un bôn â curo, ystyr y ferf hon yw 'nychu, dihoeni', gw. GPC 631.

4. Yn oed ieuenctyd a nwyf   Darlleniad H 26 yw mewn oed ivenctid mav nwyf, a dyna'r darlleniad a fabwysiadwyd yn GDG. Ond nid yw H 26 wedi cadw darlleniadau da yn achos y cywydd hwn, a gwell derbyn darlleniad Pen 49, CM 5 a Ll 133. Gellid defnyddio yn gydag enw amhendant mewn Cym.C., rhywbeth na ellir ei wneud mewn Cymraeg Diweddar, gw. GMW 215. Gan hynny hawdd gweld pam y byddai copïydd wedi newid y darlleniad i gynnwys yr arddodiad disgwyliedig mewn, a chyfnewid mau am a er mwyn y gynghanedd.

ieuenctyd   Dyma ffurf Pen 49. Er mai tarddiad y gair yw ieuanc + -did, ceir digon o enghreifftiau yn GPC 2014 sy'n diweddu ag -yd. Gw. ymhellach D. J. Bowen, 'Pynciau Cynghanedd: Odli I, U, ac Y', LlC 20 (1997), 139–40.

6. deiliad   Mae'n debyg mai'r ystyr gyfreithiol o 'un dan wrogaeth, gŵr arglwydd' yw'r un fwyaf addas yma, gw. GPC 922.

7. yn ddenwr gwawd   Yr ystyron a rydd GPC 930 i denwr yw 'un sy'n denu, hudwr, llithiwr, un sy'n perswadio drwy dwyll, perswadiwr'. Tra gwahanol yw dehongliad Alan Llwyd, '[y]n blethwr cân' (HGDG 150). Cyfieithiad Gwyn Thomas yw 'song's beguiler' (DGHP 182). Ystyr arferol gwawd yn y cyfnod hwn yw 'cân o fawl, cerdd foliant', gw. GPC 1603, ond go brin fod Dafydd yn 'denu' mawl, yn yr ystyr arferol ddiweddar. Mwy ystyrlon efallai yw 'hudwr merch [drwy gyfrwng] barddoniaeth'. Sylwer bod denwr i'w gael yn Geiriadur yr Academi d.g. seducer.

8. oed   Mwysair: 'cyfarfod â chariad' neu 'oedran', gw. SPDG 204.

9. berw oferwaith   Ar berw 'cyffro neu ysbrydoliaeth farddonol, cerddwriaeth, barddrin, gwaith bardd' gw. GPC 275 a cymh. 36.35n. Nodir oferwaith yn GPC 2631 a'r ystyron perthnasol yno yw 'gwaith barddonol ysgafn, gwamal, neu ddiwerth, testun barddonol nodweddiadol o'r glêr'. Ergyd ofer yma, mae'n debyg, yw nad yw'r farddoniaeth dan sylw yn ganu mawl ffurfiol sy'n rhan o gynhaliaeth bardd. Nid yw'n 'ofer' yn yr ystyr ei fod yn methu â swyno merched.

10.   Cynghanedd seingroes.

11. dogn o bwynt   Mae'n debyg fod dogn yma'n ansoddair 'llawn, digon, digonol', gw. GPC 1073. Ystyr pwynt yma yw 'cyflwr, stad, sefyllfa; iechyd, cyflwr (corfforol) da, graen, gwedd (lewyrchus)', gw. GPC 2951 a hefyd GDG 466.

14. adwedd afar   Dau air cymharol brin yw adwedd 'darfyddiad, diwedd, marwolaeth' (GPC2 64) ac afar 'tristwch, galar' (GPC2 96). Gellid aralleirio 'darfyddiad tristwch' neu 'tristwch darfyddiad'; yr ail a ffefrir yma.

15. rhyfig   Ar odli rhyfyg/rhyfig, gw. CD 247–8 a Bowen, art. cit., 138–9. Yma y mae'n ffurfio cynghanedd lusg â digiawdd, fel y dengys ffurfiau'r llawysgrifau pwysig sydd oll yn diweddu ag -ig.

16. neud arfer cawdd   Darlleniad GDG yw mau darfer cawdd, sy'n cyfateb i ddarlleniadau Pen 49, CM 5 a Ll 133. Fodd bynnag, ni cheir tarfer yn GPC, ac fel y nodir yn GDG 515, mae'n debyg mai rhith yw'r enghraifft a ddyfynnir yn DGG2 219. Gan hynny, gwell diwygio a darllen neud arfer cawdd. Geiryn cadarnhaol yw neud, gw. GMW 169–70, a dengys GPC 193 y gallai arfer fod yn ansoddair â'r ystyr 'arferol, cynefin'. Ystyr neud arfer cawdd felly fyddai 'mae digofaint yn arferol', ac mae hynny'n gweddu'n dda i'r cyd-destun. Roedd neud yn air a achosai broblemau'n aml i gopïwyr nad oeddynt yn ei ddeall, a gallai'r ystyr anghyffredin sydd i arfer hefyd fod wedi peri trafferth. At hynny, gwahaniaeth bychan iawn sydd rhwng neud arfer cawdd a mau/meu darfer cawdd ar lafar ac yn ysgrifenedig.

18.   r wreiddgoll.

19. awen  Gall olygu 'awydd' yn ogystal ag 'ysbrydoliaeth farddol', gw. SPDG 204.

20. tarfwr   Yma yn yr ystyr 'cyffröwr', gw. GPC 3450; hon yw'r enghraifft gynharaf. Ond yn SPDG 204 yr ystyr a gynigir yw 'scatterer', gan ei ddeall yn gyfeiriad at Eiddig.

22. angerdd   Mae dwy brif ystyr i angerdd, sef 'nwyd, taerineb, tanbeidrwydd' a 'priodoledd, cynneddf, dawn arbennig, hynodrwydd, celfyddyd, medrusrwydd', gw. GPC2 121–2 a GIG 246–7 (XII.33n) a cymh. 107.21. O gofio'r cyfeiriadau at farddoniaeth sydd yn y gerdd hon, mae'n ddigon posibl mai'r ail ystyr sydd fwyaf addas yma.