1 Curiodd anwadal galon
2 Cariad a wnaeth brad i'm bronn
3 Gynt yr oeddwn gwn ganclwyf
4 Yn oed ieuengtyd a nwyf
5 Yn ddilesg yn ddiddolvr
6 Yn ddeiliad cariad y cvr
7 Yn ddenwr gwawd yn ddinych
8 Yn dda'r oed ac yn ddewr wych
9 Yn llvniwr berw oferwaith
10 Yn llawen iawn yn llawn iaith
11 [64v] Yn ddogn o bwynt yn ddigardd
12 Yn ddigrif yn heini'n hardd
13 Ac weithian maen fuan far
14 edwi ddwyf adwedd afar
15 Darfv'r rhyfig am digiawdd
16 Darfv'r corph mav darfer cawdd
17 Darfv'n llwyr derfyn y llais
18 Ar campav, dygn y cwympais
19 Darfv'r awen am wenferch
20 Darfv'r son am darfwr serch
21 Ni chyfyd ynof cof cerdd
22 Gengyd llawen ac angerdd
23 [65r] Na son diddan amdanun
24 Na serch byth onis eirch bun
Da' ap Glm'