Pen 49, 64r–65r   
   
 
1    Curiodd anwadal galon
2    Cariad a wnaeth brad i'm bronn
3    Gynt yr oeddwn gwn ganclwyf
4    Yn oed ieuengtyd a nwyf
5    Yn ddilesg yn ddiddolvr
6    Yn ddeiliad cariad y cvr
7    Yn ddenwr gwawd yn ddinych
8    Yn dda'r oed ac yn ddewr wych
9    Yn llvniwr berw oferwaith
10    Yn llawen iawn yn llawn iaith
11    [64v] Yn ddogn o bwynt yn ddigardd
12    Yn ddigrif yn heini'n hardd
13    Ac weithian maen fuan far
14    edwi ddwyf adwedd afar
15    Darfv'r rhyfig am digiawdd
16    Darfv'r corph mav darfer cawdd
17    Darfv'n llwyr derfyn y llais
18    Ar campav, dygn y cwympais
19    Darfv'r awen am wenferch
20    Darfv'r son am darfwr serch
21    Ni chyfyd ynof cof cerdd
22    Gengyd llawen ac angerdd
23    [65r] Na son diddan amdanun
24    Na serch byth onis eirch bun
 
    Da' ap Glm'