â â â Cusan
1â â â Hawddamawr, ddeulawr ddilyth,
2â â â Haeddai fawl, i heddiw fyth,
3â â â Yn rhagorol, dwyol daith,
4â â â Rhag doe neu echdoe nychdaith.
5â â â Nid oedd debig, Ffrengig ffriw,
6â â â Dyhuddiant doe i heddiw.
7â â â Nid un wawd, neud anwadal,
8â â â Heddiw â doe, hoywdda dâl.
9â â â Ie, Dduw Dad, a ddaw dydd
10â â â Unlliw â heddiw hoywddydd?
11â â â Heddiw y cefais hoywddawn,
12â â â Her i ddoe, hwyr yw ei ddawn.
13â â â Cefais werth, gwnaeth ym chwerthin,
14â â â Canswllt a morc, cwnsallt min.
15â â â Cusan fu ym (cyson wyf fi)
16â â â Cain Luned, can oleuni.
17â â â Celennig lerw ddierwin,
18â â â Clyw, er Mair, clo ar y min.
19â â â Ceidw ynof serch y ferch fad,
20â â â Coel mawr gur, cwlm ar gariad.
21â â â Cof a ddaw ynof i'w ddwyn,
22â â â Ciried mawr, cariad morwyn.
23â â â Coron am ganon genau,
24â â â Caerfyrddin cylch y min mau.
25â â â Cain bacs min diorwacserch,
26â â â Cwlm hardd rhwng meinfardd a merch.
27â â â Cynneddf hwn neb niw cennyw,
28â â â Cynnadl dau anadl, da yw.
29â â â Cefais, ac wi o'r cyfoeth,
30â â â Corodyn min dyn mwyn, doeth.
31â â â Cryf wyf o'i gael yn ael nod,
32â â â Crair min disglair mwyn dwysglod.
33â â â Criaf ei wawd, ddidlawd ddadl,
34â â â Crynais gan y croyw anadl.
35â â â Cwlm cariad mewn tabliad dwbl,
36â â â Cwmpasgaer min campusgwbl.
37â â â Cyd cefais, ddidrais ddwydrin,
38â â â Heiniar mawl, hwn ar 'y min,
39â â â Trysor ym yw, trisawr mêl,
40â â â Teiroch ym os caiff Turel,
41â â â Ac os caiff hefyd, bryd brau,
42â â â Mursen fyth, mawrson fwythau.
43â â â Ni bu ddrwg, ei gwg a gaf,
44â â â Lai no dwrn Luned arnaf.
45â â â Inseiliodd a haeddodd hi,
46â â â Mul oeddwn, fy mawl iddi.
47â â â Ni ddaw o'm tafawd wawdair
48â â â Mwy er merch, berw serch a bair,
49â â â Eithr a ddêl, uthrwedd wylan,
50â â â Ar fy nghred, i Luned lân.
51â â â Eiddun anadl cariadloes,
52â â â A Dduw, mwy a ddaw i'm oes
53â â â Y rhyw ddydd, heulwenddydd wiw,
54â â â Am hoywddyn, ym â heddiw?