Awdl Farwnad i Lywelyn ap Gw[ ]-lim Fychan or Cryngae yn nyfed
Esgwier, Ewythrac Athro Dafydd ap Gwilym, Gwr Cyfarwydd ar fesureu'r ddwy
gerdd. ei ladd a gafodd ef.
1 Dyfed a siomed o symud mawredd
2 Am Eryr bro yr hud
3 Doe wiwdymp yn dywedud
4 Hy ddawn fu a heddiw n fud
5 Cyn hyn Lywelyn olud tiriogaeth
6 Ai trigo mae cehud
7 Agwrdd wydd y gerdd oeddud
8 Agor i mi y gwr mud
17 Gwawr Nef a llaw r ollfud yw hon
18 Hyn oedd ddygn nas Clywud
19 Gwae fi gell bob golud
20 Gwael fy nghyflwr am wr mud
9 Pryd glwys pryd dadwys prydud
10 Proffwyd aur balch syth drud
11 Prif dda wawd prawf ddywedud
12 [259] Prydydd ieithydd na fydd fud
13 Fy ngheinllyw di fyw deifr helcud baham
14 Bwhwman deigr neud glud
15 fy nghanllaw im gadawud
16 fy nghar am Aur fy ngharw mud
21 Pendefig gwledig gwlad hud is dwfn
22 ys difai im dyscud
23 pob meistrolrhwydd a wyddud
24 poenwyd fi er pan wyd fud
25 Neud dwfn fy neigr nid di fud fy lle
26 am fy llew cadarnddrud
27 nid di boen nam attebud
28 Nid hawdd ymadrawdd a mud
29 Gwae fi fod elw glod ai glud nyw ballai
30 Heb allu dywedud
31 Gwn ofal dalm gan ofud
32 fy ngwawr Air mawr am wr mud
45 Gwae fi ddwyn ail brwyn brenhinoedd
46 Llywodraeth y bobloedd
47 Lles tyrfa llias torfoedd
48 Llawen gorawen gwyr oedd
33 [260] Gwae fi [ ]
34 Ond rhy fawr im cosped
35 camp oeddym oll cyn colled
36 gwympo crair holl gampau cred
49 Gwae fi weled trwydded drwg
50 I faddau filwr y twr teg
51 A wnai'n ei oes vn yn yssig
52 Ar llall do gwall yn dy gwag
37 Gwae fi Crist Celi calon doll yw r fau
38 Wyf fyfyr o ddygn goll
39 Cwmpas eirf campus arfoll
40 Cwympo nudd y campau'n oll
41 Gwae fyfif rhif rhoi darpar ar Dduw
42 ddwyn ein arglwydd cerddgar
43 Nid rhodd gwyl neud rhwydd galar
44 Nad rhydd im gerydd am gar
77 Dihareb yw hon dywirir ym mro
78 A laddo a leddir
79 Diben o hyn a dybir
80 Di baid gwae a Duw boed gwir
93 A wnaeth argae a gwae a gwall
94 A gaiff diwedd guall
95 [261] A wnel drwg dreigl angall
96 Ar llaw ef a ery r llall
85 Nid diofal ffyrfdal ffer
86 Ir gelyn a wnel galar
87 A laddo ddyn ai loyw ddur
88 I luddias hoedl fo leddir
89 Hoyw freiniau flodau diwyd a dderyw
90 Yn niwedd cadernyd
91 Llwyr yr aeth cyngaeth cyngyd
92 Haiarn a chof barn y byd
65 Gwr oedd lywelyn gwir ganu prudd
66 Cyn rhoi pridd iw ddeutu
67 pwynt rhyfel heb ymgelu
68 pen rhaith ar ddyfed faith fu
105 Lles bychan buan yw bod yn rhull
106 fel rhai r holl fyd fal ffrydrod
107 Llew syberw llias wybod
108 Llas ag arf glas gorf y glod
125 Gwael fryn gwawl defyrn gwyly defawd gwaith
126 Gwaeth bellach fyfyrdawd
127 [262] Gwae r cedyrn gwag ei ciwdawd
128 gwegrir gwyr gwedi gwawr gwawd
81 Llithr ddagrau yw r mau modd chweg oll all[ ]
82 A chyllell faeliereg
83 Llawer och dost ar osteg
84 Llathr oer deurn lladd teyrn teg
129 Salw a thost am ior cost frith
130 Selerwin bwrdd drin beirdd dreth
131 Cwmpas reddf campus roddfaeth
132 cwympo i gyd campau byd byth
109 Llew olwg farchawg llywelyn fo th las
110 I th lys deg yn Emlyn
111 Llai yw'r dysg medd llawer dyn
112 Llafar ith ol llyfr a thelyn
101 Cyfiawnder yw hyn cyfundeb ceirdd
102 Cerddwriaeth doethineb
103 Cyweirdant pob cywirdeb
104 Corf clod nid vn wybod neb
61 Os marw f'ewythr ys mawr ryfig
62 A rifai Gymru fawr
63 Nad oeddwn ei Nai diddawr
64 Nad af yngwyllt Duw fy ngwawr
121 [263] Wylais lle gwelais gwyly fy arglwydd
122 Ond oedd fawrglwy hynny
123 A gair atteb wyf gar ytty
124 Gwr da doeth agor dy dy
53 Gwae r Nai a garai ac a ery gweled
54 Gwaelod cof am deffry
55 Y llys fraith yn arlloes fry
56 Ar llysdyn yn arlloesdy
57 Llys gwin ac emys ddigamoedd gyllid
58 Och golli ai gwnaddoedd
59 Llys naf aur llys nifeirioedd
60 Llyw lles pe byw llys pawb oedd
97 Dall fydd bydd tywyll gwydd gwedy llygad
98 Oedd yn Lloegr a Chymry
99 Dwg ith wledd nim gomeddy
100 Dor gwyr da freyr duw fry
137 Girad a thost pawb a garo dadl
138 I Landydoch heno
139 Doethineb da aeth yno
140 Diwid grair dan dywod gro
117 [264] Och och y ddol och ddaly gwyl barchus
118 Wedi th berchen anwyl
119 Och wedi r ddwy oll ddwy wyl
120 Och pan nad och pwy nid wyl
113 Och am Lywelyn dyn doeth a ddyweda
114 A ddoded oi Gyfoeth
115 Och drenydd yn Iach dranoeth
116 Och beunydd ei Ddydd a ddoeth
Dafydd ap Gwilim