Cusan
Henffych, [dydd] di-feth a chwbl arbennig,
haeddai fawl, i heddiw fyth,
sy'n rhagori, taith sanctaidd,
4 ar ddoe neu echdoe nychlyd eu taith.
Annhebyg, Ffrengig ei wedd,
oedd diddanwch ddoe i heddiw.
Nid yr un gân, anwadal yw hynny,
8 sydd i heddiw â ddoe, tâl godidog.
Ie, Dduw Dad, a ddaw dydd
o'r un lliw â heddiw, dydd hyfryd?
Heddiw fe gefais rodd wych,
12 wfft i ddoe, hwyr yw ei rodd.
Cefais werth, gwnaeth imi chwerthin,
can swllt a morc, mantell min.
Bu imi gusan (ffyddlon wyf fi)
16 Luned hardd, goleuni disglair.
Rhodd dlos, lefn,
clyw, er mwyn Mair, clo ar y geg.
Mae'n cadw ynof serch y ferch wych,
20 baich o boen fawr, cwlwm ar gariad.
Daw cof ynof imi ei ddwyn,
haelioni mawr, cariad morwyn.
Coron am gyfraith y genau,
24 castell Caerfyrddin o amgylch fy ngheg i.
Cusan prydferth ceg ddiamheuol ei serch,
cwlwm hardd rhwng bardd main a merch.
Ni all neb ganfod hynodrwydd hwn,
28 cyfarfod dau anadl, da ydyw.
Cefais, ac O! dyna gyfoeth,
degan genau geneth fwyn ddoeth.
Cryf ydwyf o'i gael yn ymyl nod,
32 trysor ceg ddisglair, fwyn, ddwys ei chlod.
Llefaf ei fawl, hanes gwych,
crynais gan yr anadl croyw.
Cwlwm cariad mewn lluniad dwbl,
36 caer sy'n cwmpasu ceg dra rhagorol.
Er imi gael, dwy frwydr ddi-drais,
cnwd o fawl, hwn ar fy ngheg,
trysor yw imi, tri sawr mêl,
40 och fi deirgwaith os caiff Turel ef,
ac os caiff hwn hefyd, meddwl gwan,
mursen fyth, mwythau mawr eu swn.
Nid drwg, ei gwg a gaf,
44 fu llai na dwrn Luned arnaf.
Seliodd a haeddodd hi,
didwyll oeddwn, fy mawl iddi.
Ni ddaw o'm tafod foliant
48 mwyach er mwyn merch, cyffro serch yw'r achos,
ond yr hyn a ddaw, gwylan ryfeddol ei gwedd,
ar fy llw, i Luned lân.
Anadl dymunol loes cariad,
52 O Dduw, a ddaw mwyach tra byddaf
y fath ddydd, dydd gwych o heulwen,
oherwydd geneth hardd, i mi â heddiw?