{ko i heiddiw}
1 Hawddamawr ddeulawr ddilyth
2 haeddai vawl i heddiw vyth
3 yn rhagorawl dwywawl daith
4 rhac doe neu echdoe wychdaith
5 nid oedd debig frengig friw
6 dyhuddiant doe i heddiw
7 nid vn wawd neud anwadal
8 heddiw a doe hoywdda dal
9 ie Dduw dad a ddaw dydd
10 vn lliw a heddiw hoywddydd
11 heddiw y cefais hoywddawn
12 hyrr i ddoe hwyr yw i ddawn
13 cefais werth gwnaeth ym chwerthin
14 canswllt a morc cwnsallt min
15 cusan y vvn cysson vi
16 cain Luned cann oleuni
17 Calenig Lerw ddierwin
18 clyw er Mair clo ar y min
19 ceidw ynof serch y verch vad
20 coel mawr gur cwlm ar gariad
21 [371] cof a ddaw ynof yw ddwyn
22 caried mawr cariad morwyn
23 coron am ganon genau
24 Caer Vyrddin cylch y min mav
25 cain bacs min diorwacserch
26 cwlm hardd rhwng meinvardd a merch
27 cynneddf hwn neb nis cennyw
28 cynadl dau anadl da yw
29 cefais ag wi or cyfoeth
30 corrodyn min dyn mwyn doeth
31 cryf wyf oi gael yn ael nod
32 crair min disglair mwyn dwysglod
33 criaf i wawd ddidlawd ddadl
34 crynnais gan y croyw anadl
35 cwlm cariad mewn tabliad twbl
36 cwmpasgaer min campusgwbl
37 cyd cefais ddidrais ddwydrin
38 heiniar mawl hwn ar vy min
39 trysor ym yw trisawr mel
40 teiroch ym o chaiff turel
41 ac os caiph hevyd bryd brau
42 mursen vyth mawrson vwythau
43 ni bu ddiwg gwg a gaf
44 lai no dwrn Luned arnaf
45 inseliodd a hwyliodd hi
46 mul oeddwn vy mawl iddi
47 ni ddaw om tavawd wawdair
48 mwy er merch berw serch a bair
49 eithr a ddel vthrwedd wylan
50 ar vynghred Eluned lan
51 eiddvn anadl cariadloes
52 o Dduw mwy a ddaw i'm oes
53 yrhyw ddydd haul wenddydd wiw
54 am hoywddyn ym a heddiw
Dauid ap Gwilim