Y Gal | |
Rho Duw gal, rhaid yw gwyliaw | |
Arnad â llygad a llaw | |
Am hyn o hawl, pawl pensyth, | |
4 | Yn amgenach bellach byth. |
Rhwyd adain cont, rhaid ydiw | |
Rhag cwyn rhoi ffrwyn yn dy ffriw | |
I'th atal fal na'th dditier | |
8 | Eilwaith, clyw anobaith clêr. |
Casaf rholbren wyd gennyf, | |
Corn cod, na chyfod na chwyf, | |
Calennig gwragedd-da Cred, | |
12 | Cylorffon ceuol arffed, |
Ystum llindag, ceiliagwydd | |
Yn cysgu yn ei blu blwydd, | |
Paeledwlyb wddw paladflith, | |
16 | Pen darn imp, paid â'th chwimp chwith, |
Pyles gam, pawl ysgymun, | |
Piler bôn dau hanner bun, | |
Pen môr-lysywen den doll, | |
20 | Pŵl argae fal pawl irgoll. |
Hwy wyd na morddwyd mawrddyn, | |
Hirnos herwa, gannos gŷn, | |
Taradr fal paladr y post, | |
24 | Benlledr a elwir bonllost. |
Trosol wyd a bair traserch, | |
Clohigin clawr moeldin merch. | |
Chwibol yn dy siôl y sydd, | |
28 | Chwibanogl gnuchio beunydd. |
Y mae llygad i'th iaden | |
A wŷl pob gwreignith yn wen. | |
Pestel crwn, gwn ar gynnydd, | |
32 | Purdan ar gont fechan fydd, |
Tobren arffed merchedau, | |
Tafod cloch yw'r tyfiad clau, | |
Cibyn dwl, ceibiai dylwyth, | |
36 | Croen dagell, ffroen dwygaill ffrwyth. |
Llodraid wyd o anlladrwydd, | |
Lledr d'wddw, llun asgwrn gwddw gŵydd, | |
Hwyl druth oll, hwl drythyllwg, | |
40 | Hoel drws a bair hawl a drwg. |
Ystyr fod gwrit a thitmant, | |
Ostwng dy ben, planbren plant. | |
Ys anodd dy gysoni, | |
44 | Ysgwd oer, dioer gwae di! |
Aml yw cerydd i'th unben, | |
Amlwg yw'r drwg drwy dy ben. | |