| Y Gal | |
| Rho Duw gal, rhaid yw gwyliaw | |
| Arnad â llygad a llaw | |
| Am hyn o hawl, pawl pensyth, | |
| 4 | Yn amgenach bellach byth. |
| Rhwyd adain cont, rhaid ydiw | |
| Rhag cwyn rhoi ffrwyn yn dy ffriw | |
| I'th atal fal na'th dditier | |
| 8 | Eilwaith, clyw anobaith clêr. |
| Casaf rholbren wyd gennyf, | |
| Corn cod, na chyfod na chwyf, | |
| Calennig gwragedd-da Cred, | |
| 12 | Cylorffon ceuol arffed, |
| Ystum llindag, ceiliagwydd | |
| Yn cysgu yn ei blu blwydd, | |
| Paeledwlyb wddw paladflith, | |
| 16 | Pen darn imp, paid â'th chwimp chwith, |
| Pyles gam, pawl ysgymun, | |
| Piler bôn dau hanner bun, | |
| Pen môr-lysywen den doll, | |
| 20 | Pŵl argae fal pawl irgoll. |
| Hwy wyd na morddwyd mawrddyn, | |
| Hirnos herwa, gannos gŷn, | |
| Taradr fal paladr y post, | |
| 24 | Benlledr a elwir bonllost. |
| Trosol wyd a bair traserch, | |
| Clohigin clawr moeldin merch. | |
| Chwibol yn dy siôl y sydd, | |
| 28 | Chwibanogl gnuchio beunydd. |
| Y mae llygad i'th iaden | |
| A wŷl pob gwreignith yn wen. | |
| Pestel crwn, gwn ar gynnydd, | |
| 32 | Purdan ar gont fechan fydd, |
| Tobren arffed merchedau, | |
| Tafod cloch yw'r tyfiad clau, | |
| Cibyn dwl, ceibiai dylwyth, | |
| 36 | Croen dagell, ffroen dwygaill ffrwyth. |
| Llodraid wyd o anlladrwydd, | |
| Lledr d'wddw, llun asgwrn gwddw gŵydd, | |
| Hwyl druth oll, hwl drythyllwg, | |
| 40 | Hoel drws a bair hawl a drwg. |
| Ystyr fod gwrit a thitmant, | |
| Ostwng dy ben, planbren plant. | |
| Ys anodd dy gysoni, | |
| 44 | Ysgwd oer, dioer gwae di! |
| Aml yw cerydd i'th unben, | |
| Amlwg yw'r drwg drwy dy ben. | |