Y Gal
Myn Duw gal, mae'n rhaid dy warchod
â llygad a llaw
oherwydd yr achos cyfreithiol hwn, y polyn pensyth,
4 yn fwy gofalus byth o hyn ymlaen.
Cwilsyn rhwyd cont, oherwydd cwyn
mae'n rhaid rhoi ffrwyn ar dy drwyn
i'th atal fel na fyddi'n cael dy gyhuddo
8 eto, clyw di, yr un sy'n peri helynt i finstreliaid.
Ti yw'r rholbren mwyaf atgas yn fy marn i,
corn cwd y ceilliau, paid â chodi na chwifio,
rhodd i wragedd bonheddig y byd Cristnogol,
12 ffon cnau daear ceudod côl,
siâp magl, ceiliagwydd
a'i ben yn ei blu oed blwydd,
gwddf â helmed wlyb a choes sy'n cynhyrchu llaeth,
16 pen blaguryn, gad dy symudiad chwithig,
yr un bwl a cham, polyn melltigedig,
piler canol dau hanner merch,
pen llysywen fôr stiff â thwll drwyddi,
20 boncyff pwl fel polyn collen ir.
Rwyt ti'n hwy na morddwyd dyn mawr,
crwydro drwy'r nos, cyn can noson,
ebill fel coes postyn,
24 un â phen lledr a elwir 'cynffon'.
Rwyt yn drosol sy'n achosi trachwant,
bollt ar gaead tin foel merch.
Mae tiwb y tu fewn i'th ben,
28 chwiban ar gyfer ffwrcho bob dydd.
Mae llygad yn dy gorun
sy'n gweld pob menyw yn hardd.
Pestel crwn, gwn sy'n ymestyn,
32 bydd yn burdan ar gont fechan,
pren ar gyfer toi coliau merched,
mae'r tyfiad sydyn yn dafod cloch,
coden bwl, turiai am deulu,
36 magl croen, ffroen a phâr o geilliau'n ffrwyth iddi.
Rwyt ti'n llond trowser o anniweirdeb,
lledr yw dy wddf, siâp asgwrn gwddf gwydd,
natur hollol dwyllodrus, coden chwant,
40 hoelen ddrws sy'n peri achos cyfreithiol a helynt.
Ystyria fod gorchymyn cyfreithiol a chyhuddiad,
plyga dy ben, pren plannu plant.
Mae'n anodd cadw trefn arnat,
44 gwthiad diflas, druan ohonot yn wir!
Mynych y daw cerydd i'th feistr,
amlwg yw'r pydredd drwy dy ben.