1 Ro duw gal rhaid yw gwiliaw
2 arnad a llygad a rac llaw
3 am hyn o hawl pawl pensyth
4 yn amgenach bellach byth
5 rhwyd adain corph rhaid ydiw
6 rhac cwyn rhoi frwyn yn dy friw
7 ith atal val na thitier
8 eilwaith am vn claerwaith on cler
9 casa rholbren wyd gennyf
10 corn cod na chyvod na chwyf
11 calennig gwrageddda cred
12 cylorfon ceuol arfed
15 paeledwlyb wddw pwl adulith
16 pen darn imp paid ath chwimp chwith
17 pyles gam pawl ysgymvn
18 piler bon dau hanner bvn
19 pen mawr lyswen den doll
20 pwl argay val pawl irgoll
21 hwy wyd na morddwyd mowrddyn
22 hirnos herw gannos hir gyn
25 trosol wyd a bair traserch
26 cylohigin clawr moeldin merch
47 pel oer drom paladr amws
48 prennol wrth drosol y drws
13 ystym llindag ceiliagwydd
14 yn cysgu n i blu blwydd
49 [315] cochi ymlaen hollti hon
50 a glasu wedir gloesion
31 [pestyl crwn gwnn gynydd
32 purdan gwraig vechan a vydd
33 tobren arffed merchedau
34 tafod cloch ywr tyfiad clau]
29 I mae llygad ith iaden
30 a wyl pob gwreignith yn wen
35 caib i dwl ceibiae duylwyth
36 croen dagell froen dwygaill frwyth
37 llodraid wyd o anlladrwydd
38 llvn dwddw val asgwrn gwddw gwydd
39 hwyl druth oll holi drythyllwg
40 hoel drws a bair hawl a drwg
41 ystyr vod ieustus a thitmant
42 ostwng dy ben planbren plant
43 ys anodd dy gysoni
44 ysgwd oer dioer gwae di
45 aml yw cerydd ith vnben
46 amlwg yw drwg drwy dy ben
51 [aml vu gerydd ymmi
52 ddydd a nos oi hachos hi
53 magnel ynghedor morwyn
54 mwy moli vyth moel yw vwyn]
Dauid ap Gwilim
Nodiadau
Dilewyd pob llinell o'r gerdd, ac ysgrifennodd Thomas Wiliems
wrth ymyl y testun: 'Cywydh serthvrwnt ny dhleyd ei gyphredino rhag drygvoes ac
ofn duw'.
Wrth ymyl llau 47-8 ysgrifennodd Thomas Wiliems 'ond Gutto
y penill'.