1 Rho duw gal rhaid yw gwiliaw
2 Arnad llygad a llaw
3 Am hyn o hawl pawl pensyth
4 Yn amgenach bellach byth
5 Rhwyd adain cont rhaid ydyw
6 Rhag cwyn roi ffrwyn yn dy ffriw
7 Ith attal fal na thitier
8 Eilwaith clyw anobaith clêr
9 Casa rholbren wyd gennyf
10 Corn côd na chyfod na chwyf
11 Cylennig gwragedd brig bred
12 Clayarffon cywelu arffed
15 Paladlyb wddw paladwlith
16 Pen darn imp paid ar chwimp chwith
17 Poles gam pawl ysgymmun
18 Peler bôn dau hanner dyn
33 Dodren arffed merchedau
34 Tafod clôch mewn tyfiad clau
19 Y Pen mor lyswen denn doll
20 Pawl argau pwl o irgoll
49 [Cochi ymlaen hollti hon
50 A glasu ar ôl ei gloesion]
21 Hwy wyd na morddwyd mowrddyn
22 Hirnos herwa gannos hirgyn
25 Trossol wyd a bair traserch
26 Clohigin clawr moeldin merch
29 Mae llygad tâl yw thalcen
30 A wyl pob gwreignith yn wenn
35 Cabi dwl ceibia dylwyth
36 Croen dwygaill ffroen dagell ffrwyth
37 Lledrad wyd o anlladrwydd
38 Lled wddw asgwrn gwddw gwydd
39 Hwyl dryth oll hel drythyllwg
40 Hoel drws a bair hawl a drwg
13 Ysdym llindag ceiliagwydd
14 Yn cysgu yn ei blu blwydd
41 Ystyr bol mit rhag ditment
42 Gosdwng dy ben planbren plant
43 Os anodd dy gysoni
44 Ysgwd oer os gwae dy di
45 Am cerydd oel ith foelben
46 Amlwg bo drwg drwy dy ben
Dafydd ap Gwilim