Testun Golygedig: 86 - Dyddgu

Dyddgu

Ieuan, iôr gwaywdan gwiwdad,
Iawnfab Gruffudd, cythrudd cad,
Fab Llywelyn, wyn wingaer,
4 Llwyd, unben wyd, iawnben aer,
Y nos arall, naws arial,
Y bûm i'th dŷ. Bo maith dâl.
Nid hawdd er hyn hyd heddiw,
8 Hoen wymp, ym gaffael hun wiw.
Dy aur a gawn rhadlawn rhydd,
Dy loyw win, dy lawenydd,
Dy fedd glas, difaddau i glêr,
12 Dy fragod du ei friger.

    Dy ferch, gwn na ordderchai,
Feinwen deg, o'th faenwyn dai.
Ni chysgais, ni weais wawd,
16 Hun na'i dryll, heiniau drallawd.
Duw lwyd,—pwy a'm dilidia?—
Dim yn fy nghalon nid â
Eithr ei chariad taladwy.
20 O rhoid ym oll, ai rhaid mwy?
Ni'm câr hon. Neu'm curia haint.
Ni'm gad hun o'm gad henaint.

    Rhyfedd gan Ddoethion Rhufain
24 Rhyfedded pryd fy myd main.
Gwynnach yw nog eiry gwanwyn.
Gweddw wyf o serch y ferch fwyn.
Gwyn yw'r tâl dan wialen,
28 Du yw'r gwallt, diwair yw gwen.
Duach yw'r gwallt, diochr gwŷdd,
No mwyalch neu gae mywydd.
Gwynder disathr ar lathrgnawd
32 Yn duo'r gwallt, iawnder gwawd.

   Nid annhebig, ddiddig ddydd,
Modd ei phryd, medd ei phrydydd,
I'r ferch hygar a garawdd
36 Y milwr gynt, mau lwyr gawdd,
Peredur, ddwysgur ddisgwyl,
Fab Efrog, gwrdd farchog gŵyl,
Pan oedd yn edrych, wych wawl,
40 Yn yr eiry, iôn eryrawl,
Llen asur, ger llwyn Esyllt,
Llwybr balch, lle buasai'r gwalch gwyllt
Yn lladd, heb neb a'i lluddiai,
44 Mwyalch, morwyn falch ar fai.
Yno'r oedd iawn arwyddion–
Pand Duw a'i tâl?–peintiad hon:
Mewn eiry gogyfuwch luwch lwyth
48 Modd ei thâl, medd ei thylwyth.
Asgell y fwyalch esgud
Megis ei hael. Megais hud.
Gwaed yr edn gwedy r'odi,
52 Gradd haul, mal ei gruddiau hi.
Felly mae, eurgae organ,
Dyddgu a'r gwallt gloywddu glân.

    Beirniad fûm gynt hynt hyntiaw.
56 Barned rhawd o'r beirniaid draw
Ai hywaith, fy nihewyd,
Ymy fy myw am fy myd.