Dyddgu
Ieuan, arglwydd a'i waywffon yn danbaid [ac iddo] dad
teilwng,
mab urddasol Gruffudd, aflonyddwr [ar faes y] gad,
mab Llywelyn Llwyd [a chanddo] lys ddisglair [lle y darperir]
gwin,
4 pennaeth wyt, gwir flaenor [mewn] brwydr,
y noson o'r blaen, ffyrnig wrth anian,
bûm yn dy gartref. Bydded [iti] daliad helaeth.
Nid hawdd oddi ar hynny hyd heddiw,
8 gwych ei wedd, [fu] i mi gael cwsg teilwng.
Cawn dy aur yn rhodd helaeth a pharod,
dy win disglair, dy lawenydd,
dy fedd iraidd, yn ddiwarafun i'r beirdd,
12 dy fragod tywyll ei ben.
Dy ferch yn dy gartref o feini disglair,
lodes deg a lluniaidd, gwn na ddewisai ganlyn.
Ni chefais gwsg na chyntun,
16 ni phlethais [gerddi] moliant [oherwydd] dioddefaint [yn sgil]
cystudd.
Duw sanctaidd, (pwy a fydd yn fy esmwytháu?)
ni dderbyn fy nghalon ddim
ac eithrio ei chariad gwerthfawr.
20 Pe cawn [ei serch] yn llwyr, a fyddai angen unrhyw beth
amgen?
Nid yw hon yn fy ngharu. Y mae clefyd yn fy nychu.
Nid yw hon yn caniatáu i mi gysgu [hyd yn oed] os bydd yn
caniatáu i mi fyw yn hen.
Rhyfedd yng ngolwg Doethion Rhufain
24 pa mor anghyffredin yw gwedd fy anwylyd lluniaidd.
Y mae yn wynnach nag eira'r gwanwyn.
Yr wyf yn amddifad o serch y ferch fwyn.
Gwyn yw ei thalcen dan ei gwallt plethedig,
28 Du yw ei gwallt, pur yw'r ferch.
Duach yw ei gwallt, union yw ei brigau,
na mwyalchen neu addurn muchudd.
[Mae'r] gwynder dihalog ar groen disglair
32 yn [peri] tywyllu'r gwallt [fwyfwy], [gwrthrych] moliant
haeddiannol.
Nid yw natur ei gwedd yn annhebyg,
yn ôl ei bardd, adeg o lonyddwch,
i [wedd] y ferch hawddgar a garodd
36 y milwr gynt, digofaint eithafol [sydd] i'm rhan,
[sef] Peredur mab Efrog, aros mewn poenau ingol [a wnaf],
marchog cadarn a diymhongar,
pan oedd yn edrych, llewyrch ysblennydd,
40 yn yr eira, arglwydd [ac iddo] anian eryr,
asur ei wisg, ger llwyn [bro] Esyllt
lle y buasai'r gwalch gwyllt, [un] balch ei hynt,
yn lladd mwyalchen heb i neb allu ei rwystro,
44 genethig falch sy'n gwneud cam.
Yr oedd yno ddarlun cymwys
o ddelwedd hon [ac] onid Duw ei hun sy'n ei haeddu?
[Mae] ei thalcen, yn ôl ei theulu,
48 [megis pe bai] mewn lluwch helaeth o eira [a] llawn cyn
ddisgleiried,
[ac] adain y fwyalchen chwim
megis ei hael, yr wyf yn llawn rhyfeddod,
[a] gwaed yr aderyn yn dilyn y gawod eira,
52 tanbeidrwydd yr haul [yn machlud], megis ei gruddiau hi.
Felly y mae, [pibau] organ [sy'n llawn] addurniadau euraid,
Dyddgu a'i gwallt disglair sy'n gwbl ddu.
Bûm cyn hyn yn farnwr yn ymlwybro yma a thraw ar fy
hynt.
56 Bydded i lu o'r beirniaid acw farnu
ai rhwydd imi [fydd cael] byw oherwydd fy anwylyd,
dyna fy ngwir ddymuniad.