{ko: merch}
1 Ivan ior gwaewdan gwiwdad
2 iownvab Gruffudd cythrudd cad
3 vab Llewelyn wyn wingaer
4 Llwyd vnben wyd iownben aer
5 y nos arall naws eirial
6 y bvm ith duy bo maithdal
7 nid hawdd er hyn yd heddiw
8 hoen wimp ym gaffael hvn wiw
9 dy aur a gawn radlawn rydd
10 dy loyw win dy lawenydd
11 dy vedd glas divaddau i gler
12 dy vragod du i vriger
13 dy verch gwn nas gordderchai
14 veinwen deg oth vaenwyn dai
15 ni chysgais ni weuais wawd
16 hvn nai dryll heiniav drallawd
17 Duw lwyd pwy a'm dilea
18 dim yn vynghalon nid a
19 deithr i chariad tyladwy
20 o rhoid ym oll ai rhaid mwy
21 ni'm car hon nim curia haint
22 ni'm gad hvn o'm gad heniaint
23 rhyvedd gan ddoethion Ruvain
24 rhyvedded pryd vymyd main
25 gwynnach nog eiry gwanwyn
26 gweddw wyf o serch y verch vwyn
27 gwyn yw'r tal dan y wialen
28 du yw'r gwallt diwair yw gwen
29 duach yw'r gwallt diochr y gwydd
30 no mwyalch neu y mvchydd
31 gwynder disathr ar lathrgnawd
32 yn duor gwallt iownder gwawd
33 nid anhebig ddiddig ddydd
34 modd i phryd medd i phrydydd
35 ir verch hygar a garawdd
36 y milwr gynt mowlair gawdd
37 Peredur ddwysgur ddisgwyl
38 vab Evrog gwrdd varchog gwyl
39 pan oedd yn edrych wych wawl
40 yn yr eiry ion eryrawl
41 [285] Llen asur gaer llwyn Esyllt
42 llwybr balch lle bu'r gwalch gwyllt
43 yn lladd eb neb ai lluddiai
44 mwyalch morwyn valch ar vai
45 yno'r oedd iawn arwyddion
46 pand Duw ai tal paintiad hon
47 mewn eiry gyfuwch luwch lwyth
48 modd i thal medd i thuylwyth
49 asgell y vwyalch esgud
50 megys i hael megais hud
51 gwaed yr edn gwedy'r odi
52 gradd haul val i gruddiae hi
53 velly may eurgay organ
54 Dyddgu ar gwallt gloywddu glan
55 beirniad vvm gynt hynt hyntiaw
56 barned rhawt or beirniaid draw
57 ai hywaith vynehewyd
58 ymy vy myw am vy myd
Dauid ap Gwilim