â â â Caru Merch Fonheddig
1â â â Dyddgu ddiwaradwyddgamp,
2â â â Fy nghariad, oleuad lamp,
3â â â Anlladrwydd, dioer, yn lledrad
4â â â A fu ymy fry o frad.
5â â â Arglwyddes eiry ei gloywddaint,
6â â â Dy garu fu haeddu haint.
7â â â Nid wyf wr ag nid â fyth
8â â â I geisio merch naf gwaywsyth.
9â â â Rhy uchel, medd rhai, uchod
10â â â Y dringais pan gludais glod.
11â â â Hyder a wna dringhedydd.
12â â â Hydr y dring fal gwerling gwydd
13â â â Oni ddêl, hyn a ddyly,
14â â â Bob ychydig i'w frig fry.
15â â â Oddyna y bydd anawdd
16â â â Disgynnu rhag haeddu cawdd.
17â â â Caf fy ngalw, gwr salw ei swydd,
18â â â Coffa lwybr, y cyff'lybrwydd.
19â â â Saethydd a fwrw pob sothach,
20â â â Heb y nod â heibio'n iach,
21â â â Ac ergyd hefyd difai
22â â â Yn y nod, a iawn a wnâi.
23â â â Ergyd damwain, rieinfun,
24â â â O gant oedd ddyfod ag un.
25â â â Ergyd damwain, fun feinael,
26â â â Em deg wyl, ymy dy gael.
27â â â Llongwyr pan gân' ollyngwynt,
28â â â Lle gwnân' dan hwntian dwyn hynt,
29â â â Nid oedd fodfedd, salwedd som,
30â â â O ben ystyllen dollom,
31â â â Rhwyfwyr, merinwyr anoeth,
32â â â Rhyngthyn' a'r anoddun noeth.
33â â â Ac i'r lan ar ddiwanfa
34â â â Y deuan', darogan da.
35â â â Ac am hynny, gem honnaid,
36â â â Nid drwg fy ngobaith, nid rhaid.
37â â â Ef ry aill, ddyn eiry peilliw,
38â â â Ym dy gael, wineuael wiw.
39â â â Ofer oll, ef ry allai
40â â â Na'th gawn. Gwyn ei fyd a'th gâi.
41â â â Oni'th gaf er cerdd erddrym
42â â â Ddidranc, ddyn ieuanc ddawn, ym,
43â â â Mi a'th gaf, addwyn wyneb,
44â â â Fy nyn, pryd na'th fynno neb.