| Caru Merch Fonheddig | |
| Dyddgu ddiwaradwyddgamp, | |
| Fy nghariad, oleuad lamp, | |
| Anlladrwydd, dioer, yn lledrad | |
| 4 | A fu ymy fry o frad. |
| Arglwyddes eiry ei gloywddaint, | |
| Dy garu fu haeddu haint. | |
| Nid wyf ŵr ag nid â fyth | |
| 8 | I geisio merch naf gwaywsyth. |
| Rhy uchel, medd rhai, uchod | |
| Y dringais pan gludais glod. | |
| Hyder a wna dringhedydd. | |
| 12 | Hydr y dring fal gwerling gwŷdd |
| Oni ddêl, hyn a ddyly, | |
| Bob ychydig i'w frig fry. | |
| Oddyna y bydd anawdd | |
| 16 | Disgynnu rhag haeddu cawdd. |
| Caf fy ngalw, gŵr salw ei swydd, | |
| Coffa lwybr, y cyff'lybrwydd. | |
| Saethydd a fwrw pob sothach, | |
| 20 | Heb y nod â heibio'n iach, |
| Ac ergyd hefyd difai | |
| Yn y nod, a iawn a wnâi. | |
| Ergyd damwain, rieinfun, | |
| 24 | O gant oedd ddyfod ag un. |
| Ergyd damwain, fun feinael, | |
| Em deg ŵyl, ymy dy gael. | |
| Llongwyr pan gân' ollyngwynt, | |
| 28 | Lle gwnân' dan hwntian dwyn hynt, |
| Nid oedd fodfedd, salwedd som, | |
| O ben ystyllen dollom, | |
| Rhwyfwyr, merinwyr anoeth, | |
| 32 | Rhyngthyn' a'r anoddun noeth. |
| Ac i'r lan ar ddiwanfa | |
| Y deuan', darogan da. | |
| Ac am hynny, gem honnaid, | |
| 36 | Nid drwg fy ngobaith, nid rhaid. |
| Ef ry aill, ddyn eiry peilliw, | |
| Ym dy gael, wineuael wiw. | |
| Ofer oll, ef ry allai | |
| 40 | Na'th gawn. Gwyn ei fyd a'th gâi. |
| Oni'th gaf er cerdd erddrym | |
| Ddidranc, ddyn ieuanc ddawn, ym, | |
| Mi a'th gaf, addwyn wyneb, | |
| 44 | Fy nyn, pryd na'th fynno neb. |