Caru Merch Fonheddig
Dyddgu heb ddiffyg o gwbl ar ei rhinweddau,
fy nghariad, llewyrch [megis] llusern,
chwant llechwraidd a bradwrus, yn wir,
4 a fu i'm rhan draw acw.
Arglwyddes a'i dannedd yn ddisglair [fel] yr eira,
[am i mi] dy garu bu'n [rhaid] i mi ddioddef clefyd [serch].
Nid wyf yn un na cheisia o gwbl
8 ennill ffafr merch arglwydd cadarn ei waywffon.
Anelais yn rhy uchel, medd rhai,
pan genais dy glodydd draw acw.
Bydd anifail dringo yn ymddwyn yn rhyfygus.
12 Bydd yn dringo coeden yn hyderus fel pe bai yn ben-campwr
nes cyrraedd, a dyma ei haeddiant,
o dipyn i beth y gangen uchaf.
Ni bydd yn hawdd disgyn oddi yno
16 rhag dioddef profedigaeth.
Caf fy nisgrifio, gwr anffodus ei lafur,
tynged gyfarwydd, yn yr un modd yn union.
Y saethydd sy'n ergydio â phob [math o] saethau
diwerth,
20 â heibio'r cylch yn llwyr,
ac ergyd â [saeth] berffaith
a dery'r cylch, a hynny sy'n briodol.
Ar hap y byddai un ergyd o gant, y ferch fonheddig,
24 yn dod â llwyddiant.
Ar hap y byddwn yn dy gael â'm hergyd,
y ferch â'r aeliau meinion, yr un addfwyn a phrydferth
[megis] gem.
Pan ddaw'r gwynt i lenwi hwyliau'r llongwyr,
28 [a] phan ânt ar eu taith gan lamu [dros y tonnau],
ni byddai [namyn] modfedd, [bydd] wynebau yn drist [os daw]
afles [i'w rhan],
sef ystyllen dreuliedig a brau,
yn ffin rhyngddynt, y rhwyfwyr a'r morwyr rhyfeddol hyn,
32 a'r dyfnder diymgeledd.
[Eto] fe ddônt i'r lan ar ôl eu siwrnai,
da [yw'r] argoelion.
Ac am hynny, fy nhrysor mawr ei bri,
36 nid ffôl imi obeithio, nid caledi [sydd o'm blaen].
Efallai, y ferch a'i gwedd [yn ddisglair] fel eira a blawd,
y byddaf yn dy ennill, y lodes hardd â'r aeliau
tywyll.
Efallai mai methu a wnaf, [a'm] holl [ymdrechion] yn ofer.
40 Gwyn ei fyd y sawl a fydd yn dy ennill.
Oni bydd modd i mi dy gael yn eiddo i mi trwy fy nghaniadau
grymus a thragwyddol,
y ferch sydd yn anterth ei hieuenctid,
fe'th gaf, yr un hawddgar ei gwedd,
44 fy merch, pan na fydd neb arall yn dy chwennych.