I Ddyddgu.
1 Dyddgu diwaradwydd-gamp
2 fyng-hariad oleuad Lamp
3 Anlladrwydd dioer yn lledrad
4 ydwoyd i mi fry o frâd.
7 Nid wyf wr nid af fyth
8 i geisio merch naf gwaew-syth
17 Rhac fyng-alw salw swydd
18 yn gloff-lwyr yn gyffelybrwydd
11 hyder a wna dringhedydd
12 hydr y dring uwch gwyrling gwydd
13 Oni ddel hyn a ddyly
14 bob ychydig hyd frig fry
15 Oddyna y bydd anawdd
16 discynnu rhag heuddu cawdd
27 Llong-wyr pan gan ollyng-wynt
28 lle gwnan dan hwntian dwyn hynt
29 Ni bydd modfedd salwedd som
30 o ben ystyllen drallom,
31 Rhwyfwyr Merin-wyr anoeth
32 Rhyngddyn ar anoddyn noeth
33 [215r] Ac i'r lañ ar eu diwenfa
34 y deuan dyrogan da
19 Seithydd a fwrw pob sothach
20 heb y nod a heibio 'n iach
21 Ac ergyd hefyd tifai
22 yn y nod pand iawn a wnai
23 Ergyd damwain rhiain-fun
24 o gant oedd ddyfod ag vn
25 Ergyd damwain fun fein-ael
26 em deg iawn oedd i'm dy gael.
37 Ef a eill ddyn eyry peill-liw
38 Dy gael ddyn wineu-ael wiw
39 Ofer oll er a allai
40 nath gawn gwyn ei fyd a'th
gai.
41 Onith gaf er cerdd erddrym
42 ddidrangc yn ifangc wen ym
43 Mi a'th gaf addwyn wyneb
44 yn y pryd na'th fynno neb.
Dafydd ap Gwilym.