â â â Gwahodd Dyddgu
1â â â Dyn cannaid doniog gynneddf,
2â â â Dyddgu â'r gwallt lliwddu lleddf,
3â â â Dy wahawdd, cawddnawdd cuddnwyf,
4â â â I ddôl Mynafon ydd wyf.
5â â â Nid gwahodd gwyw a'th gydfydd,
6â â â Nid gwahodd glwth i'i fwth fydd.
7â â â Nid gorchwy elw medelwas,
8â â â Nid o yd, gloyw amyd glas.
9â â â Nid tam o ginio amaeth,
10â â â Ac nid ynyd ciglyd caeth.
11â â â Nid gofwy Sais â'i gyfaillt,
12â â â Nid neithior arf barf mab aillt.
13â â â Nid addawaf, da ddiwedd,
14â â â I'm aur ond eos a medd;
15â â â Eos gefnllwyd ysgafnllef
16â â â A bronfraith ddigrifiaith gref,
17â â â Ygus dwf, ac ystafell
18â â â O fedw ir; a fu dy well?
19â â â Tra fôm allan dan y dail
20â â â Ein ceinnerth fedw a'n cynnail.
21â â â Llofft i'r adar i chwarae,
22â â â Llwyn mwyn, llyna'r llun y mae.
23â â â Nawpren teg eu hwynepryd
24â â â Y sydd o goedwydd i gyd:
25â â â I waered yn grwm gwmpas,
26â â â I fyny yn glochdy glas.
27â â â A thanun', eiddun addef,
28â â â Meillion ir, ymellin nef.
29â â â Lle deuddyn, llu a'u diddawr,
30â â â Neu dri yn ennyd yr awr.
31â â â Lle y cyrch rhywiociyrch rhiw,
32â â â Lle cân edn, lle cain ydiw.
33â â â Lle tew lletyau mwyeilch,
34â â â Lle mygr gwydd, lle megir gweilch.
35â â â Lle newydd adeilwydd da,
36â â â Lle nwyf aml, lle nef yma.
37â â â Lle golas rwyl, lle gwyl gwg,
38â â â Lle gyr dwfr, lle goer difwg.
39â â â Lle nid hysbys, dyrys dir,
40â â â Blotai neu gawsai goesir.
41â â â Yno heno, hoen gwaneg,
42â â â Awn ni ein dau, fy nyn deg,
43â â â Awn, od awn, wyneb gwynhoyw,
44â â â Fy nyn lygad glöyn gloyw.