Gwahodd Dyddgu
Ferch ddisglair â natur ddawnus,
Dyddgu â'r gwallt lliwddu llyfn,
dy wahodd (nawdd llid yw nwyf cudd)
4 i ddôl Mynafon yr wyf.
Nid gwahoddiad di-ddim sy'n gweddu i ti,
nid gwahoddiad bolgi i'w fwthyn fydd [hwn].
Nid arlwy sy'n dâl i lanc sy'n cynaeafu,
8 nid [arlwy] o yd, yd cymysg disglair gwyrdd.
Nid tamaid o ginio arddwr,
ac nid ynyd ciglyd taeog.
Nid ymweliad Sais â'i gyfaill,
12 nid neithior cyllell eillio taeog.
Nid addawaf (diwedd da)
i'm merch euraid ond eos a medd;
eos frown ei chefn, ysgafn ei llais,
16 a bronfraith gref a dymunol ei hiaith,
tyfiant cysgodol, ac ystafell
o goed bedw ir; a fu dy gwell?
Tra bôm allan dan y dail,
20 bydd ein coed bedw cain a chadarn yn ein cynnal.
Croglofft gan yr adar i chwarae,
llwyn hyfryd, dyna sut y bydd.
Naw coeden deg eu hwynepryd
24 y sydd o'r coed i gyd:
Tua'r llawr yn gylch crwm,
i fyny yn glochdy gwyrdd.
A thanynt, cartref hyfryd,
28 feillion ir, manna'r nef.
Lle i ddau (llu sy'n eu pryderu)
neu dri [dreulio] awr fel ennyd.
Lle y bydd iyrchod rhywiog y rhiw yn cyrchu iddo,
32 lle y cân aderyn, lle gwych ydyw,
lle y mae lletyau'r mwyalchod yn drwchus,
lle y mae coed yn hardd, lle y megir gweilch,
lle ag adeiladu da newydd o goed,
36 lle [y mae] mynych nwyf, lle o'r nef yma.
Lle [y mae] plas go wyrdd, lle y mae gwg yn dirion,
lle ger dwr, lle go-oer di-fwg.
Lle nad hybsys (tir llawn mangoed)
40 cardotwr hirgoes am flawd neu gaws.
Yno heno, liw'r don,
awn ni ein dau, fy merch deg,
awn [yno], os awn [i unrhywle], [ferch ag] wyneb gwyn a
hardd,
44 fy merch â llygad glöyn gloyw.