â â â Dagrau Serch
1â â â Dyddgu liw dydd goleuaf,
2â â â Dy nawdd, er Unmab Duw Naf,
3â â â Deurudd Mair o diredd Mael,
4â â â Duon lygaid a dwyael.
5â â â Deliais, neud fal hudoliaeth
6â â â Dilyn serch, arnad, ferch faeth.
7â â â Da leddfair deulueiddferch,
8â â â Dolurus yw daly ar serch.
9â â â Deuliw barf dwfr llafarfas,
10â â â Delw glaer ar len dyli glas,
11â â â Dêl i'th fryd dalu i'th frawd
12â â â Dyfu yt wawd â'i dafawd.
13â â â Dugum yt well no deugae,
14â â â Dogn mul, da y gwn y mae.
15â â â Dyn fal corbedw yn edwi,
16â â â Deune ton, amdanad di;
17â â â Dyfed a wyr mae difyw,
18â â â Difai ddysg, a Dafydd yw.
19â â â Difraw ddysg, od af ryw ddydd,
20â â â Dwf llerw, dan defyll irwydd,
21â â â Daifn fy neigr, dwfn fynegais,
22â â â Dewr fy mhoen, hyd ar fy mhais.
23â â â Diofal, glud, a deifl glaw,
24â â â Dan ael wyf, dean wylaw.
25â â â Dy fardd mad yn anad neb,
26â â â Digroenes deigr ei wyneb.
27â â â Dyn wyf o'th serch, wenferch wawl,
28â â â Digreiad, gwyw dagreuawl,
29â â â Dydd ermoed, deuwedd eiry mân,
30â â â Diferiog bwyll, dwf eirian.
31â â â Dyddgu, f'aur anrhydeddgael,
32â â â Dyn gwiw, du eiliw dy ael,
33â â â Dawn glud, be'm rhoddud yn rhad,
34â â â Da holl Loegr, diell lygad,
35â â â Dielwyd rhin ym min Mai,
36â â â Dy olwg a'i dielwai.
37â â â Dylyaf ffawd am wawdair,
38â â â Dylyy fawl, myn delw Fair.
39â â â Didarf i'm bron yw d'adwyth,
40â â â Didaer lun o Dewdwr lwyth.
41â â â Didwf yw dadl dy gerddawr,
42â â â Didawl main ar dy dâl mawr.
43â â â Dodaist wayw llon dan fron friw,
44â â â Didost gan dy fryd ydiw.
45â â â Didawl o'th gariad ydwyf,
46â â â Da dy lun, a didal wyf,
47â â â Dieithr cael, da uthr yw cwyn,
48â â â Dylusg arnad, f'adolwyn;
49â â â Dau lygad dyn yn gwrthgrif,
50â â â Diystyr wallawyr llif.